Annog pobl i fwynhau arfordir Gwynedd yn ddiogel y Pasg hwn

Dyddiad: 04/04/2023

Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd a rhagolygon am dywydd heulog dros y Pasg, mae Cyngor Gwynedd yn annog pawb fydd yn mwynhau arfordir a thraethau Gwynedd dros y gwyliau i wneud hynny yn ddiogel a chymryd pob gofal.

Mae glannau Gwynedd yn enwog am eu harddwch a’u cyfoeth o fyd natur, ond mae’n bwysig fod pawb sy’n ymweld yn ymwybodol o beryglon yr arfordir a thrin yr amgylchedd naturiol gyda pharch.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Economi a Chymuned:

“Gyda niferoedd sylweddol o bobl leol ac ymwelwyr yn dod i’n traethau bendigedig bob blwyddyn, rydym eisiau sicrhau bod pawb yn mwynhau eu hunain yn ddiogel drwy feddwl am ddiogelwch eu hunain ac eraill o’u cwmpas.  

“Rydym yn atgoffa pobl i gynllunio eu hymweliad i lan y môr drwy wirio rhagolygon y tywydd, bod yn ymwybodol o’r llanw ac i drin y môr gyda pharch.

“Er bod yr haul yn tywynnu mae’r môr yn gallu bod yn hynod o oer yr adeg yma o’r flwyddyn, felly cymrwch bwyll os byddwch yn ystyried mynd i’r dŵr a sicrhau eich bod yn dilyn yr holl gyfarwyddiadau diogelwch. Peidiwch â mentro ymdrochi os nad ydych yn ffyddiog bod y gallu gennych i ddychwelyd i’r lan yn ddiogel a chofiwch ddweud wrth rywun ble ydych yn mynd.  Os ydych ym morio, yna sicrhewch fod pob offer diogelwch gennych yn y cwch, a byddwch yn ystyriol o eraill drwy gydffurfio gyda rheolau mordwyo”.

Ychwanegodd Bryn Pritchard-Jones o Wasanaeth Morwrol Cyngor Gwynedd: “Ein neges ydi i bobl fwynhau’r traeth yn ddiogel a thrin arfordir Gwynedd gyda pharch.

“Rydym hefyd yn gofyn i bobl barchu ymwelwyr eraill a’r gymuned leol. Er enghraifft, os gwelwch yn dda byddwch yn ystyrlon os ydych yn dod i’r traeth mewn car neu gerbyd arall – os ydi maes parcio yn llawn, ystyriwch os allwch ymweld â glan môr neu atyniad arall. Bydd y rheini sy'n parcio'n anghyfrifol ac yn rhwystro ffyrdd ger y traeth yn ei gwneud hi'n anodd i gerbydau gwasanaethau brys pe bai angen iddynt gael mynediad i'r ardal.

“Cofiwch waredu eich sbwriel yn gyfrifol os gwelwch yn dda drwy naill ai ei roi mewn bin cyhoeddus neu ewch ag o gartref. Mae taflu sbwriel ar lawr neu beidio codi baw eich ci yn gwneud ein cymunedau yn flêr, yn gallu achosi damwain i bobl eraill ac yn niweidiol i’r amgylchedd. Os gwelwch yn dda, ystyriwch eraill o'ch cwmpas."

Mae gwybodaeth am atyniadau ymwelwyr yng Ngwynedd, sut i gynllunio eich taith a llawer mwy ar wefan Eryri Mynyddoedd a Môr, ewch i: Ymweld ag Eryri | Eryri, gyda gwybodaeth benodol am draethau Gwynedd yma: Traethau a'r Arfordir | Eryri (ymweldageryri.info). Neu dilynwch Ymweld ag Eryri ar gyfryngau cymdeithasol.