Gweithio'n y maes gofal – digwyddiad recriwtio gofal ardal Nantlle

Dyddiad: 20/02/2023
Gofalwyr_Carers

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn recriwtio i ddenu staff newydd ar gyfer timau gofal cymdeithasol ardal Nantlle, gyda cyfleoedd amrywiol ar gael mewn meysydd gwahanol.

Fel rhan o ymgyrch cyffredinol yn y maes gofal, bydd y digwyddiad wyneb-i-wyneb yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Penygroes ar ddydd Mawrth, 21 o Fawrth, rhwng 1-5pm.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Gofal Oedolion Cyngor Gwynedd:

“Gyda heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes gofal, rydw i’n falch o glywed am y digwyddiad hwn sy’n agored i unrhyw un sy'n awyddus i ddysgu mwy am gyfleoedd yn y maes. Mae gweithio mewn swyddi o’r math yma, a gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl fregus yn eich cymuned eich hun, yn gallu rhoi boddhad mawr felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i alw heibio.

“Mae gan timoedd Oedolion, Plant ac Anableddau Dysgu y Cyngor gyfleoedd gwaith yn yr ardal ar hyn o bryd a bydd gwybodaeth hefyd ar gael am pa gefnogaeth sydd gan y Cyngor a’r Ganolfan Byd Gwaith i helpu unigolion i waith.”

Ar y diwrnod, bydd cyfle i glywed am fanteision gweithio i’r Cyngor, gwybodaeth am yr hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael i staff newydd, blas ar ofal a bywyd gweithio yn ein gwasanaethau gan staff cyfredol.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gwybod mwy – bydd y sesiwn ar agor o 1pm tan 5pm ar ddydd Mawrth, 21 Mawrth yn Neuadd Goffa Penygroes LL54 6NN. Mae gwybodaeth hefyd am y cyfleoedd swyddi sydd ar gael gyda Chyngor Gwynedd ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/swyddi neu dilynwch ‘Swyddi Cyngor Gwynedd Jobs’ ar Facebook.