Gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Neuadd Dwyfor

Dyddiad: 01/02/2023
Bydd y theatr a’r sinema yn Neuadd Dwyfor Pwllheli yn cau dros dro o ddydd Llun, 6 Chwefror hyd nes canol Ebrill oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol fydd yn diogelu’r adeilad hanesyddol sy’n ganolbwynt diwylliannol ardal Llŷn ac Eifionydd.

Mae gwaith ar y brics coch allanol eisoes wedi dechrau a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar du allan yr adeilad gan gynnwys gosod ffenestri newydd, ail rendro ac adnewyddu’r gwaith plwm. Bydd drysau newydd yn cael eu gosod ar flaen yr adeilad gan gynnwys prif fynedfa awtomatig er mwyn gwella insiwleiddied y cyntedd.

Tu mewn i’r adeilad bydd gwaith ar y waliau allanol i drin tamprwydd gan gynnwys ail blastro a pheintio. Bydd lloriau newydd yn cael eu gosod yn y mannau cyhoeddus. Bydd y toiledau merched, dynion a’r toiled hygyrch ar y llawr cyntaf hefyd yn cael eu trawsnewid. Yn ogystal â hyn bydd swyddfeydd newydd yn cael ei osod ar gyfer staff.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros adran Economi a Chymuned  Cyngor Gwynedd: “Mae’r buddsoddiad yma yn newyddion da i fywyd diwylliannol yr ardal ac yn dangos ymrwymiad Cyngor Gwynedd i’r adnodd yma ym Mhwllheli.

“Rydw i hefyd yn falch bydd y café bar ar y llawr gwaelod a’r llyfrgell yn aros ar agor drwy gydol y cyfnod gwaith ac mae’r rhaglen gweithgareddau yn parhau, a bydd croeso cynnes dal i fod i bobl leol yn y ganolfan bwysig hon.

“Rydw i’n siŵr bydd pobl leol yn edrych ymlaen i weld Neuadd Dwyfor yn ail agor ar ei newydd wedd yn ystod mis Ebrill ac yn ysu i weld beth fydd ar y raglen cyffroes o ddigwyddiadau gan gynnwys ffilmiau, theatr, darlithoedd, gweithdai a cherddoriaeth byw.”

Mae’r holl wybodaeth am ddigwyddiadau yn Neuadd Dwyfor ar gael ar y wefan www.NeuaddDwyfor.cymru, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy'r wasg leol.

Mae’r awditoriwm a’r ystafelloedd cyfarfod ar gael i’w llogi yn ystod y dydd a gofod y Llyfrgell gyda’r hwyr. E-bostiwch: Neuadd_Dwyfor@gwynedd.llyw.cymru am fanylion.