Haf o Ddiwylliant a Sinema yn Neuadd Dwyfor
Dyddiad: 06/08/2025
Mae’n argoeli i fod yn haf bywiog, llawn antur a chreadigrwydd yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ble gall pobl leol ac ymwelwyr ymgolli mewn gwledd i’r synhwyrau.
Bydd cynulleidfaoedd sinema yn gallu gweld y rhaglen o ffilmiau newydd neu glasuron sydd wedi’u hailgyhoeddi ar eu gorau, diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Gwynedd yn y dechnoleg taflunio.
Ers gosod taflunydd 4K o’r radd flaenaf yn Neuadd Dwyfor, mae pobl yn gallu mwynhau delweddau mwy craff a llachar, sydd wedi trawsnewid y profiad o fynd i’r pictiwrs ym Mhwllheli.
Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r buddsoddiad mewn taflunydd 4K newydd wedi trawsnewid dangosiadau ffilm yma yn Neuadd Dwyfor ac mae cynulleidfaoedd bellach yn mwynhau ffilmiau gyda manylder anhygoel. Mae’r Neuadd wedi gallu cynnal gwyliau, digwyddiadau arbennig a nosweithiau rhagflas o safon uchel yn uniongyrchol ym Mhwllheli.
“Gyda hyd at bymtheg dangosiad yr wythnos o ffilmiau drwy’r haf, mae’n wych bod cynulleidfaoedd yn medru edrych ymlaen at ail-fyw hoff glasuron neu ddarganfod y ‘blockbusters’ diweddaraf mewn ansawdd gweledol drawiadol.
“Does dim angen teithio ymhell i gael profiadau diwylliannol gwych, mae cymaint ar gael yma ar garreg y drws.”
Mae Neuadd Dwyfor yn parhau i dyfu fel canolfan ddiwylliannol, gan gynnig perfformiadau theatr, arddangosfeydd a digwyddiadau artistig ar gyfer pob oedran.
Yn ganolog i’r adeilad mae’r llyfrgell —sy’n cynnal rhaglen fywiog o weithgareddau haf i blant, sy’n gwahodd ymwelwyr ifanc i archwilio, dysgu a bod yn greadigol drwy gydol y gwyliau ysgol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae Neuadd Dwyfor yn sicr yn adnodd gwerthfawr i’r ardal yma o Wynedd, a gyda phob tymor, mae Neuadd Dwyfor yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i’r celfyddydau, diwylliant a chymuned. Mae’n gwahodd cynulleidfaoedd i ymgysylltu â straeon, syniadau a phrofiadau sy’n tanio’r dychymyg ac yn dod â phobl ynghyd yng nghalon Pwllheli.
“Hoffwn atgoffa ymwelwyr i wneud y mwyaf o’u hymweliad â’r Neuadd – gwneud defnydd o’r llyfrgell neu gymryd y cyfle i ymlacio yn y bar caffi cyn neu ar ôl ffilm, gweithdy neu berfformiad.”
I gael rhagor o wybodaeth am raglen y digwyddiadau dilynwch dudalen Facebook Neuadd Dwyfor. I archebu tocynnau ewch i: www.NeuaddDwyfor.cymru