Datblygiad cyntaf Tŷ Gwynedd yn Llanberis ar fin cwblhau

Dyddiad: 22/08/2025

Mae’r gwaith o adeiladu tri chartref fforddiadwy ar safle hen lyfrgell yn Llanberis ar fin cwblhau, ac mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl leol sydd â diddordeb mewn gwneud cais am un o’r cartrefi ar safle Dôl Afon Goch i gofrestru gyda Tai Teg cyn gynted â phosibl.

Trwy gynllun Tŷ Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn adeiladu eu tai cyntaf ers dros 30 mlynedd ar y safle hwn, er mwyn diwallu’r galw mawr am dai addas sydd o fewn cyrraedd pobl leol.   Mae'r datblygiad yn cynnwys dau dŷ pâr gyda dwy ystafell wely; ac un tŷ ar wahân gyda thair ystafell wely. 

Disgwylir i'r tai gael eu cwblhau erbyn mis Tachwedd 2025. Bydd y tai yn cael eu gwerthu ar sail benthyciad ecwiti gan Gyngor Gwynedd, i sicrhau pris sy'n fforddiadwy i bobl leol, tra hefyd fod y tai yn parhau yn nwylo pobl leol i'r dyfodol.

Nod cynllun Tŷ Gwynedd yw creu cartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithlon i bobl leol trwy godi cartrefi fforddiadwy canolraddol i’r nifer o bobl leol sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sy’n annhebygol o fod yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Y cam cyntaf i bobl sydd â diddordeb cofrestru am gartref o dan y cynllun yw datgan diddordeb gyda Tai Teg.

Mae'r datblygiad yn rhan o  Gynllun Gweithredu Tai'r Cyngor i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: 

“Mae Dôl Afon Goch yn Llanberis yn garreg filltir bwysig i Gyngor Gwynedd, gan mai dyma’r datblygiad cyntaf o gartrefi a godwyd fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Tai. Mae’n amlwg bod angen mawr am dai fforddiadwy canolraddol, yn Llanberis ac ar draws Gwynedd, ac mae’r Cynllun Tŷ Gwynedd yn un o’r ffyrdd yr ydym yn ymateb i’r galw hwnnw. Os hoffech wneud cais am un o’r tai, dyma’r amser i gofrestru. 

“Dw i’n annog unrhyw un sydd efo diddordeb yn y tai, felly, i ymweld â safle we Tai Teg er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i gofrestru am dŷ fforddiadwy.” 

I weld y meini prawf ac i gofrestru diddordeb, mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan Tai Teg: www.taiteg.org.uk