Cynllun Prynu Cartref Gwynedd yn cefnogi pobl leol i brynu cartrefi

Dyddiad: 18/08/2025

Mae nifer uchel o bobl yng Ngwynedd yn ei gweld hi’n anodd fforddio prynu cartref addas ar y farchnad agored, ond trwy Gynllun Prynu Cartref Gwynedd mae cefnogaeth ar gael i ymgeiswyr cymwys ddod yn berchen ar gartref.

Mae’r cynllun rhannu ecwiti ‘Cynllun Prynu Cartref Gwynedd’ yn cynnig cymorth i bobl leol brynu tai o’r farchnad agored yn eu cymunedau eu hunain. Ers ei lansio ar ei newydd wedd yn 2022, mae’r cynllun gan Gyngor Gwynedd, mewn partneriaeth gyda Tai Teg a Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 62 o aelwydydd i brynu cartref yng Ngwynedd.

Trwy gydweithrediad gyda Pheilot Dwyfor, mae uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu hefyd wedi cynyddu yn ddiweddar, gydag eiddo gwerth £350,000 yn gallu cael ei ystyried mewn achosion eithriadol – cynnydd o £50,000 o gymharu â’r trothwy blaenorol o £300,000.

Ei brif nodweddion:

  • Gall prynwyr cymwys ddefnyddio'r cynllun i brynu cartref ar y farchnad agored.
  • Gallu benthyg rhwng 10% a hyd at 50% o werth yr eiddo.
  • Uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu: £300,000– yn amodol ar dystiolaeth o angen(Gellir ystyried £350,000 mewn rhai achosion eithriadol)

 

Dyma un o nifer o gynlluniau gan Gyngor Gwynedd i sicrhau bod mwy o bobl yn cael mynediad at dai fforddiadwy yn y sir trwy’r Cynllun Gweithredu Tai. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys codi mwy o dai, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a thaclo digartrefedd trwy ddatblygu mwy o dai â chefnogaeth yn y sir.

Dywedodd ymgeisydd o Ben Llŷn, sydd wedi derbyn cefnogaeth trwy’r Cynllun:

“Wnes i glywed am y Cynllun Prynu Cartref drwy aelod o'r teulu, ac ar ôl darllen mwy amdano roeddwn i wir yn meddwl bod na catch o ryw fath gan ei fod yn swnio'n rhy dda i fod yn wir. Es i ymlaen i wneud cais drwy Tai Teg, ac roedd y broses gyfan yn gyflym ac yn llyfn, efo digon o gefnogaeth gan y swyddogion. Llwyddon ni i brynu tŷ efo help y cynllun mewn ardal yn ein milltir sgwâr, rhywbeth na fyddai byth wedi digwydd efo prisiau tai mor uchel yno. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n edrych i brynu tŷ i edrych am fwy o wybodaeth am y cynllun.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:

“Rydym yng nghanol argyfwng tai ac mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl Gwynedd gyda’u sefyllfa dai. Mae’r nifer sydd wedi cael help trwy’r cynllun yma’n dangos yn glir bod galw am y cynllun a’i fod yn gynllun sy’n gweithio.

“Mae hefyd yn bwysig ein bod yn adolygu ein cynlluniau tai yn gyson i sicrhau bod y meini prawf yn adlewyrchu’r sefyllfa go wir i bobl Gwynedd. Mae prisiau tai wedi codi’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwrando, ac erbyn hyn mae Cynllun Prynu Cartref Gwynedd mewn rhai amgylchiadau yn gallu helpu tuag at brynu tai gwerth £350,000. Mae cyd-weithio efo Llywodraeth Cymru a Tai Teg yn golygu ein bod ni’n gallu cyfuno’n hadnoddau a chyrraedd hyd yn oed mwy o bobl trwy Wynedd.

“Mae’n gyfnod anodd i bobl leol sydd eisiau prynu cartref yn eu cymunedau ond mae help ar gael. Dw i’n annog unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth i fynd i wefan y Cyngor, ac os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, ewch i gofrestru efo Tai Teg cyn gynted â phosib.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant AS:

“Mae’n wych gweld sut mae ein gwaith gyda Chyngor Gwynedd a Thai Teg wedi helpu cymaint bobl i brynu cartref yn eu cymuned.

“Mae Peilot Dwyfor wedi mabwysiadu dull newydd i Brynu Cartref, ac mae’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain – mae mwy o deuluoedd ac unigolion yn berchen ar dai nag erioed o'r blaen. Byddwn yn annog unrhyw un a allai fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn i gofrestru heddiw."

Mae’r holl wybodaeth am y cynllun i’w weld ar safle we’r Cyngor: Cynllun Prynu Cartref Gwynedd (llyw.cymru)

I gofrestru, gwneud cais neu ofyn cwestiwn am y cynllun ewch i wefan Tai Teg: https://taiteg.org.uk/

03456 015 605

info@taiteg.org.uk