Cyngor Gwynedd yn arwain y ffordd gyda thechnoleg i gefnogi annibyniaeth yn y cartref

Dyddiad: 13/08/2025

Mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi mewn technoleg newydd a all drawsnewid y ffordd y darperir cymorth i bobl sy’n derbyn gofal cartref ar draws y sir.

Trwy gydweithio rhwng Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor, mae deg system ‘Lilli’ wedi’u gosod mewn cartrefi ar draws Gwynedd lle mae unigolion yn derbyn cymorth gofal gan y Cyngor.

Mae’r system yn defnyddio synwyryddion yn y cartref i wirio patrymau fel symudedd a tymheredd o bell. Mae hyn yn galluogi gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr a’r teulu i ddeall  beth sy’n digwydd yn arferol o ddydd i ddydd yn y cartref, ac i baratoi os bydd pethau’n newid.

Bydd Lilli yn cael ei defnyddio i gefnogi oedolion ag amrywiaeth o anghenion gofal cymdeithasol i fyw'n ddiogel gartref, ac i helpu atal derbyniadau i'r ysbyty. Mae hyn yn anelu at wella’r ddarpariaeth gofal i oedolion sydd mewn perygl uchel o gael eu derbyn i'r ysbyty, ac ar yr un pryd ryddhau capasiti, wrth i’r galw cynyddol barhau i roi pwysau sylweddol ar wasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd:

“Mae treialu systemau fel Lilli yn dangos ein hymrwymiad i drio gweithio yn fwy rhagweithiol, ac i feddwl tu allan i’r bocs. Mae’n ein galluogi i ymateb i sefyllfa yn gynnar, er enghraifft; cyn i rhywun syrthio ac angen eu derbyn i’r ysbyty.  Mae hyn yn y pen draw yn ein helpu ni gefnogi trigolion Gwynedd i fyw yn annibynnol ac yn ddiogel yn ein cymunedau yn yr hirdymor.

“Mae’r Lilli yn ffordd dda o dynnu teuluoedd a gofalwyr mewn i sgyrsiau am anghenion a gofal unigolion - mae’n gallu cynnig tawelwch meddwl gan fod modd iddynt gael mynediad at y wybodaeth drwy ap ar ffôn neu dabled, ac mae’r dystiolaeth mae’r Lilli yn ei gasglu yn gallu rhoi sylfaen i sgwrs rhwng gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd.”

Ychwanegodd Dylan Owen, Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gwynedd:

“Mae adroddiad Llechen Lân wedi amlygu heriau presennol ac i’r dyfodol o ran gofal cymdeithasol yma yng Ngwynedd, ac o ganlyniad rydym wedi mynd ati i dreialu system arloesol newydd. Mae’r system yn ein galluogi i ddeall mwy am wir angen unigolion, ac yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr am batrymau yn y cartref; y cryfderau a risgiau.

“Wrth ddefnyddio’r system bydd modd ymyrryd yn gynnar a helpu i gefnogi pobl sy’n dibynnu ar ofal mewn ffordd sy’n cynyddu eu hannibyniaeth ac ansawdd bywyd.

“Rydyn ni’n rhagweld wrth i’r rhaglen dyfu y byddwn yn gallu ailfeddwl yn llwyr sut mae rhai agweddau gofal yn cael eu darparu ledled y sir.”

Os hoffwch drafod Lilli a’r posibilrwydd o dreialu’r dechnoleg eich hun neu ar gyfer aelod o’r teulu/ffrind, cysylltwch gydag eich/ei gweithiwr cymdeithasol i drafod. Bydd y gweithwyr cymdeithasol yn cyfeirio unigolion addas ymlaen ar gyfer y treial.