Canlyniadau TGAU 2025 – Cyngor Gwynedd yn llongyfarch disgyblion ledled y Sir

Dyddiad: 21/08/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn estyn llongyfarchiadau i ddisgyblion ledled y sir ar eu llwyddiant yn arholiadau TGAU eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg:

“Mae’r canlyniadau eleni yn hynod galonogol, ac mae pob disgybl yn haeddu clod am eu hymdrechion. Rydym yn falch iawn o’u llwyddiant ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w cefnogi i ffynnu ymhellach. Hoffwn hefyd ddiolch i’r athrawon a’r staff ysgolion am eu gwaith caled a’u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn.”

Wrth gydnabod y llwyddiant, ychwanegodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:
“Mae’r canlyniadau TGAU eleni yn adlewyrchu ymroddiad, dyfalbarhad a thalent ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau gwresog iddynt i gyd. Mae’r llwyddiant hwn yn dyst i’r gwerthoedd craidd sy’n sail i’n cyfundrefn addysg yma yng Ngwynedd – cynhwysiant, llesiant, cyfle cyfartal, a chefnogi pob disgybl i gyrraedd eu potensial fel unigolion.”

Nodiadau: Nid yw Cyngor Gwynedd yn rhyddhau gwybodaeth am ganlyniadau ysgolion unigol.