Canlyniadau Lefel A ysgolion Gwynedd- 2025

Dyddiad: 14/08/2025

Dymuna Cyngor Gwynedd longyfarch fyfyrwyr y sir wrth i ganlyniadau Lefel A gael eu cyhoeddi heddiw.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones , Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae llwyddiant ein pobl ifanc gyda’u canlyniadau heddiw yn adlewyrchiad clir o'u hymroddiad a’u dyfalbarhad. Mae'n bleser mawr gennyf eu llongyfarch ar gyrraedd cerrig milltir mor bwysig, ac estyn diolch o galon i’r athrawon a’r staff ysgolion sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth eu paratoi ar gyfer y cymwysterau hyn.

“Wrth i’n myfyrwyr symud ymlaen at gyfleoedd newydd a chyffrous, hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd i’r dyfodol.”

Nododd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd ei fodlonrwydd gyda’r canlyniadau Lefel A, Uwch Gyfrannol a chanlyniadau galwedigaethol cyfatebol yn ysgolion uwchradd Gwynedd.

Meddai: “Unwaith eto eleni, mae’n bleser cael datgan fy malchder gyda chanlyniadau ysgolion Gwynedd. Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr a’r athrawon ar eu llwyddiant.

“Rwy’n estyn diolch arbennig i’r ysgolion a’r athrawon am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad parhaus, i’r myfyrwyr am eu hymdrechion sylweddol ac i’w teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus. Mae cyfraniad pob un ohonynt wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant rydym yn ei ddathlu heddiw.”

Cyfeiriodd y Pennaeth Addysg hefyd at ei falchder yn llwyddiant myfyrwyr Gwynedd yn yr arholiadau Uwch Gyfrannol, gan ddymuno’n dda iawn iddynt oll yn eu Lefel A y flwyddyn nesaf.

Nodiadau:

Canlyniadau ysgolion uwchradd Gwynedd yn unig yw’r rhain, ac nid ydynt yn cynnwys canlyniadau lefel A yn y colegau.

Ni ryddheir unrhyw wybodaeth am ysgolion unigol.