Datganiadau Preifatrwydd Cyllid

Ceisiadau Budd-dal Tai / Gostyngiad Treth Cyngor / Budd-daliadau Addysg

Pam ein bod angen eich gwybodaeth

Fel rhan o’r broses ceisio am Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor, Budd-daliadau Addysg, Taliadau Tai Dewisol a Thaliadau Hunan Ynysu bydd Cyngor Gwynedd yn casglu data personol amdanoch chi a’ch teulu.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cynnwys manylion fel a ganlyn :

  1. Manylion amdanoch chi, eich cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol, dyddiad geni, cyfansoddiad y teulu, manylion incwm a cynilion.
  2. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth berthnasol arall fydd ei angen ar gyfer prosesu eich cais megis gwybodaeth am rhent taladwy a manylion landlord.
  3. Cesglir manylion cyswllt megis rhifau teleffon, cyfeiriad e-bost ayyb er mwyn ein galluogi i gysylltu gyda chi rhag ofn bydd gennym angen eich holi am eich manylion.

Defnyddiwn y data i brosesu eich cais ac fe allwn fod angen gwirio rhan o’r manylion gyda phartneriaid eraill i sicrhau cywirdeb y data.

Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio eich manylion oherwydd bod gennym ddyletswydd o dan y sail gyfreithiol ganlynol:

  1. Ein dyletswydd gyfreithiol ar sail y ddeddfwriaeth ganlynol :
    - Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol
    - Rheoliadau Budd-dal Tai
    - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r      Cynllun Diofyn) (Cymru)
    - Deddf Cyllid Llywodraeth Leol
  2. I atal/canfod trosedd, yn cynnwys cam gynrychioli yn unol â Deddf Twyll â’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodaeth) (Cymru).
  3. Eich caniatâd personol chi, y gellir ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg gennych drwy ein hysbysu mewn ysgrifen.  Nodwch, lle tynnir caniatâd personol yn ôl ni fydd eich cais am Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor a/neu Fudd-daliadau Addysg yn cael eu prosesu.  Ni ellir tynnu caniatâd personol yn ôl mewn achosion lle mae trosedd yn cael ei atal.

Fe fydd y Cyngor yn defnyddio eich manylion ar gyfer penderfyniadau awtomatig er mwyn ymdrin yn ddiymdroi a chywir efo data a dderbynnir gan fudiadau eraill ar eich rhan (e.e. Adran Gwaith a Phensiynau) ac ar gyfer proffilio er mwyn creu sgôr risg ar gyfer eich cais er mwyn darganfod os oes angen ymyrraeth bellach gyda’ch cais cyn prosesu.  Bydd hyn yn eich effeithio yn y dull canlynol :

  1. Penderfyniadau cyflymach
  2. Llai o ymholiadau
  3. Penderfyniadau cywir tro cyntaf

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth

Fe allwn rannu eich data/manylion efo’r sefydliadau canlynol :

  1. Timau mewnol oddifewn y Cyngor megis Treth Cyngor, Gwasanaethau Tai, Gwasanaethau Cwsmer.
  2. Cynghorwyr, os ydynt yn eich cefnogi gyda’ch cais.
  3. Sefydliadau partneriaethau eraill megis Adran Gwaith a Phensiynau, Cymdeithasau Tai, Cyngor ar Bopeth, Shelter Cymru.
  4. Sefydliadau Trydydd Parti lle ganiateir neu ble mae’n orfodol gan gyfraith i wneud hynny er mwyn atal a chanfod twyll a diogelu cyllid cyhoeddus.  Fe all rhain gynnwys cynghorau lleol eraill ac adrannau o’r llywodraeth neu asiantaethau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus, megis Asiant Casglu Dyledion y Cyngor, Cyflogwyr, Adran Waith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu ar gyfer ymchwilio troseddau, a chydweddu data drwy’r Fenter Dwyll Cenedlaethol.
  5. Ar achlysuron, fe all fod yn angenrheidiol i’ch gwybodaeth gael ei weld gan ein cyflenwyr cefnogaeth TG wrth ddarparu cefnogaeth TG i’r isadeiledd a sustemau cysylltiol TG, ar gyfer y broses sydd wedi ei fynegi yn y rhybudd preifatrwydd hwn.  Fe fydd y mynediad gan gefnogaeth TG ar gyfer achlysuron lle bydd angen cyweirio unrhyw fater technegol gyda’r meddalwedd, a bydd unrhyw edrych ar y data yn ddamweiniol.

Nid yw’r rhestrau uchod yn drwyadl.

Ni fyddwn fel arfer yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill heblaw ein sefydliadau partneriaid heb eich caniatâd.

Fodd bynnag, fe all fod rhai amgylchiadau arbennig lle bydd angen i ni rannu gwybodaeth heb ganiatâd, megis pan fyddwn yn cael ein gorfodi gan y gyfraith, i amddiffyn diogelwch cyhoeddus, ac mewn adeg lle mae risg o niwed neu achosion o argyfwng.

Rhennir unrhyw wybodaeth ar sail angen gwybod yn unig, gyda’r unigolion addas a gyda’r lleiafswm o wybodaeth ar gyfer y pwrpas.

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo eich data personol i wlad arall.

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth

Cedwir eich gwybodaeth am gyfnod lleiafswm sydd ei angen ar gyfer ein pwrpas.

Fe fydd y wybodaeth amlinellir yn y rhybudd hwn yn cael ei gadw hyd orffennir pob gweithred ar eich cais, a hyd y bydd y cyfnod mae’r Cyngor ei gadw am rhesymau cyfreithiol a phwrpasau archwilio wedi dod i ben.

Eich hawliau

I gael gwybod am eich hawliau a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r Cyngor, ewch i’r wefan.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei gasglu

Bydd y wybodaeth byddem yn gasglu yn dibynnu ar natur eich hawliad, ac fe all gynnwys: enw, cyfeiriad, dyddiad geni, oed, galwedigaeth, rhifau ffon, cyfeiriad ebost, rhif cerbyd, rhif yswiriant gwladol, gwybodaeth personol sensitif megis gwybodaeth meddygol. 

Sut y byddem yn casglu’r gwybodaeth

Cesglir gwybodaeth mewn sawl ffordd, yn cynnwys: gohebiaeth ysgrifenedig, ebyst, wyneb yn wyneb, galwadau ffon, gan gyrff eraill e.e. cyfreithwyr ac yswirwyr. 

Pam ein bod angen eich gwbodaeth

Mae’r Cyngor yn casglu eich gwybodaeth er mwyn penderfynu a trin eich hawliad yswiriant yn erbyn Cyngor Gwynedd. Fel all eich gwybodaeth hefyd cael ei ddefnyddio ar gyfer hyrwyddo gwasanaeth cysylltiedig dymunol neu a dderbyniwyd gan y Cyngor, megis gwneud cwyn neu cais am wasanaeth. Trwy wneud hawliad rydych yn caniatau i’r Cyngor gasglu a prosesu eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys gwybodaeth bersonol sensitif) ar yr amod y caiff ei ddefnyddio fel y nodir yn y datganiad yma. Gall methu a daprapu gwybodaeth bersonol olygu na fyddwn yn gallu prosesu’ch cais.

Cyfiawnhad dros ddefnyddio’ch gwybodaeth

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth personol:

  • oherwydd fod gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu
  •  oherwydd ein bod yn ymgymryd a thasg er budd cyhoeddus
  • ar gyfer adnabod ac atal twyll

 

Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

 

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth

Yn ddibynnol ar natur eich hawliad/cyswllt, fe all eich gwybodaeth cael ei rannu efo’r dilynol:

  • Adrannau eraill o fewn y Cyngor
  • Yswirwyr y Cyngor
  • Cyfreithwyr mewnol / allanol
  • Asiantaethau barnwrol – e.e. Llysoedd
  • Cymhwyswyr colledion allanol
  • Contractwyr allanol

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.

 

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth

Bydd gwybodaeth yn cael ei gadw am 6 mlynedd ariannol llawn wedi i hawliad setlo. Lle mae plentyn yn rhan o hawliad, ni fydd y cyfnod yma’n cychwyn hyd nes penblwydd y plentyn yn 18.

Eich hawliau

Mwy o wybodaeth am eich hawliau a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r Cyngor.

Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Gyngor Gwynedd, yn unol â'r gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.

 

Ym mis Hydref 2022, bydd y cyfnod diweddaraf o’r ymarferiad paru data i bwrpas atal twyll, sydd yn cael ei adnabod fel y Menter Twyll Cenedlaethol (“NFI”), yn cychwyn. Bydd data Cyngor Gwynedd, ynghyd â data cyrff cyhoeddus eraill, yn cael ei gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau maent yn paru. Gwybodaeth bersonol yw'r data hwn fel arfer. Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu bod modd adnabod ceisiadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. Pan gaiff data ei baru mae'n dynodi anghysondeb posib y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

 

Ar hyn o bryd mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan ei bwerau paru data statudol a nodir yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004), yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan yn eu hymarfer atal twyll. Ar gyfer y fenter hon, mae’n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer eu cydweddu/paru. Mae’r manylion i’w cael ar wefan Archwilio Cymru

 

Caiff data eu prosesu gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn unol ag awdurdod statudol, felly, nid yw deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gael caniatâd unigolion i brosesu eu data personol.

 

Mae prosesau paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Mae hyn er mwyn rhoi cymorth i'r cyrff sy'n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â'r gyfraith ac ymarfer da, gan gynnwys cynnal diogelwch data (gweler Cod Ymarfer).

 

Am fwy o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau dros baru gwybodaeth benodol, gweler Archwilio Cymru neu cysylltwch â:

 

Archwilio Cymru,
24 Heol y Gadeirlan,
Caerdydd
CF11 9LJ,

e-bost: menter.twyll@archwilio.cymru

Fel rhan o'i swyddogaeth fel yr awdurdod bilio ar gyfer y sir, mae Cyngor Gwynedd yn casglu, yn prosesu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol er mwyn gweinyddu a gorfodi'r Dreth Gyngor.

Rydym hefyd yn defnyddio'r data yn ein cronfa ddata Treth Gyngor at ddibenion eraill, sy'n cynnwys ein swyddogaethau gorfodaeth statudol, ynghyd ag atal a chanfod twyll.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth yn fewnol os penderfynir bod hyn yn fuddiol i destun y data, a phan nad yw hyn yn gwrthdaro â'u hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

Sut ydym yn cael eich gwybodaeth

Daw'r wybodaeth amdanoch o’r ffynonellau a ganlyn:

  • Yn uniongyrchol gennych chi
  • Asiantaethau llywodraeth ganolog
  • Awdurdodau lleol eraill
  • Aelodau’r teulu

Pa wybodaeth bersonol ydym yn ei phrosesu a pham

Mae'r wybodaeth sy'n cael ei phrosesu amdanoch yn amrywio, yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddarperir, ond bydd yn disgyn i'r categorïau a ganlyn:

  • Gwybodaeth amdanoch chi, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni
  • Nifer a statws yr oedolion eraill yn yr eiddo er mwyn penderfynu ar gymhwysedd ar gyfer disgowntiau ac eithriadau.
  • Manylion am eich ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Manylion ariannol
  • Manylion cyflogaeth, er mwyn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer ein Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor

Gwybodaeth am eich iechyd a lles a data arall categori arbennig

Er mwyn diwallu ein rhwymedigaethau statudol a chyfreithiol mewn perthynas â'r gwasanaethau hyn, efallai y bydd rhaid i ni brosesu data sensitif neu ddata "categori arbennig" amdanoch, allai gynnwys data sy'n ymwneud â:

  • Manylion am iechyd corfforol neu iechyd meddwl i asesu a ydych yn gymwys ar gyfer disgowntiau neu eithriadau

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Yn dibynnu ar y gwasanaeth, rydym yn dilyn y sail gyfreithiol a ganlyn ar gyfer prosesu eich data o dan GDPR y DU:

  • Erthygl 6(1)(e) ar gyfer perfformiad ein tasg gyhoeddus

Y ddeddfwriaeth berthnasol ydi:

  • Treth Cyngor - Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Trethi Annomestig – Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Data categori arbennig

Pan fo'r wybodaeth sy'n cael ei phrosesu yn ddata categori arbennig, er enghraifft eich data iechyd, rydym yn dilyn y seiliau cyfreithiol ychwanegol a ganlyn:

  • Erthygl 9(2)(g) am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol

Yn ogystal, rydym yn ddibynnol ar yr amodau prosesu yn Atodlen 1 rhan 2 Deddf Diogelu Data 2018 (DPA2018). Mae hyn yn ymwneud â phrosesu data categori arbennig ar gyfer:

  • Dibenion statudol ac ati, a'r llywodraeth

Pa mor hir fyddwn ni'n cadw eich data personol

Yn unol â'n hamserlen gadw, gan fod modd addasu gwybodaeth am rwymedigaethau'r Dreth Gyngor yn ôl-weithredol at 1 Ebrill 1993, efallai y bydd angen cadw rhai manylion o'r dyddiad hwnnw. Byddwn yn adolygu'r data ar ôl chwe blynedd er mwyn sicrhau na chedwir unrhyw fanylion diangen.

Rhannu data

Wrth berfformio'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni rannu peth o'ch data personol gyda sefydliadau allanol.

Gallwn rannu gwybodaeth gyda sefydliadau o'r mathau a ganlyn:

  • Swyddfa'r Cabinet – Y Fenter Twyll Genedlaethol, gweler yr adran gwybodaeth bellach
  • Llywodraeth Cymru – y fenter twyll genedlaethol, gweler yr adran gwybodaeth bellach
  • Llysoedd a gwasanaeth tribiwnlys EM
  • Llywodraeth leol
  • Yr Heddlu
  • Cymdeithasau tai cymdeithasol
  • Landlordiaid preifat
  • Adran gwaith a phensiynau
  • Cynghorwyr Budd-dal
  • Mentoriaid cyflogaeth
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • Y Swyddfa Brisio
  • Data Treth Cyngor y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) – gweler yr adran gwybodaeth bellach
  • Gwirio Credyd – TransUnion (Call Credit)
  • Sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol

Mewn rhai amgylchiadau, megis o dan orchymyn llys, mae'n ofyniad cyfreithiol i ni rannu gwybodaeth, a gallwn hefyd rannu gwybodaeth gyda'r Heddlu ac asiantaethau gorfodaeth eraill at ddibenion atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau.

Yn ogystal, gallwn rannu gwybodaeth yn fewnol, er mwyn gwirio neu gadarnhau eich manylion personol, er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac wedi'u diweddaru.

Dim ond pan fyddwn o'r farn bod sail gyfreithiol a theg yn bodoli y bydd data a gedwir gan y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio gan adrannau eraill mewnol, e.e.

  • Swyddogion twyll corfforaethol
  • Swyddogion dyledion corfforaethol
  • Swyddog asesiad ariannol (anghenion gofal)
  • Adran gynllunio
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Adran Tai ac Eiddo

Sut ydym yn defnyddio proseswyr data?

Trydydd partïon sy'n darparu rhannau o'n gwasanaethau yw proseswyr data. Mae gennym gontractau gyda hwy, ac ni chaniateir iddynt wneud unrhyw beth gyda'ch data personol os nad ydym wedi gofyn iddynt wneud hynny. Isod rhestrir ein proseswyr data cyfredol ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Trethi
 Prosesydd DataPwrpas Hysbysiad Preifatrwydd 

Capita One Revenues and Benefits

(cyflenwr Capita) 

 Y system a ddefnyddir i weinyddu Treth Cyngor a Gostyngiadau Treth Cyngor Capita One - Hysbysiad Preifatrwydd
Capita Intelligent Communications  (CIC) Cyflenwr a ddefnyddir i anfon biliau treth cyngor a chyfraddau busnes, dogfennau adfer treth cyngor a chyfraddau busnes, hysbysiadau budd-daliadau, dogfennau Asesiadau Ariannol, llythyrau ceisiadau pellach a llythyrau cyfathrebu  CIC - Hysbysiad Preifatrwydd
 Civica Digital Workflow 360  Y system a ddefnyddir i gadw gohebiaeth  Civica - Hysbysiad Preifatrwydd
 Tel Solutions  Cyflenwr a ddefnyddir i anfon negeseuon testun a negeseuon e-bost am gyfrifon treth cyngor sydd mewn dyled  Tel Solutions - Hysbysiad Preifatrwydd
 TransUnion  Gwirio Credyd  TransUnion - Hysbysiad Preifatrwydd

Trosglwyddo data personol

Nid oes data yn cael ei drosglwyddo dramor fel rhan o'r gwasanaeth hwn.

Gwneud Penderfyniadau Awtomataidd

Gallwn wneud rhai penderfyniadau awtomataidd i roi terfyn ar ddisgowntiau â chyfyngiad amser, eithriadau, neu brosesu mandad debyd uniongyrchol newydd, ac i gynorthwyo ag adfer incwm (adfer treth cyngor heb ei thalu). Mae gennych yr un hawl i apelio â phan fydd swyddog wedi gwneud y penderfyniad.



Gwybodaeth Bellach

Y Fenter Twyll Genedlaethol

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir ganddo, a gall ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych neu ei rhannu â chyrff eraill at ddibenion atal a chanfod twyll. Mae hyn yn cynnwys cyfranogaeth yn Swyddfa'r Cabinet.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen isod: Y Fenter Twyll Genedlaethol


Data Treth Cyngor y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Mae Treth Cyngor yn ffynhonnell allweddol am ystadegau am incymau ac anghydraddoldebau mewn perthynas ag aelwydydd. Er enghraifft, y Dreth Gyngor yw un o'r trethi uniongyrchol pwysicaf sy'n bwydo i Ystadegau Gwladol ar effeithiau trethi a budd-daliadau ar aelwydydd. Ar hyn o bryd, mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar ddata o arolygon, sy'n agored i gamgymeriadau wrth fesur a gwybodaeth goll (yn enwedig ar gyfer y Dreth Gyngor).

Mae darparu gwybodaeth weinyddol ar y Dreth Gyngor i'r SYG yn gwella ansawdd yr ystadegau yn sylweddol, ac yn lleihau'r baich ar ymatebwyr arolygon. Mae'r ystadegau hyn yn allweddol ar gyfer datblygu polisïau cenedlaethol er mwyn mynd i'r afael â thlodi a gwella safonau byw.

Mae'r Cyngor yn rhannu'r data personol a ganlyn gyda'r SYG:

  • Enw
  • Cyfeiriad (cyfeiriad personol neu fusnes ar gyfer trethi busnes)
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Enw’r cwmni neu'r busnes
  • E-bost
  • Rhif ffôn – personol a busnes (ar gyfer trethi busnes)
  • Incwm/rhent yr aelwyd
  • Data personol yr aelwyd – manylion am bob person yn yr aelwyd at ddibenion budd-daliadau

Mae'r SYG yn ei ddefnyddio ar gyfer:

  • Adran Arolygon Cymdeithasol: Disodli'r cwestiynau yn ymwneud â'r Dreth Gyngor mewn pedwar arolwg cymdeithasol (Arolwg Amodau Byw, Arolwg Costau Byw a Bwyd, Arolwg Cyfoeth ac Asedau, Arolwg Adnoddau Teuluol), a ddefnyddir i gynhyrchu deilliannau ystadegol newydd a gwella deilliannau ystadegol cyfredol
  • Tîm Cofrestr Cyfeiriadau: Creu a gwella'r gofrestr cyfeiriadau ar gyfer y Cyfrifiad
  • Prisiau: Defnyddio i fesur prisiau'r Dreth Gyngor yn y Fynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai, a chyfrannu at is-elfennau aelwydydd wrth iddynt ddatblygu mynegai taliadau aelwydydd
  • Data Gweinyddol y Cyfrifiad: Gwella deilliannau ymchwil poblogaeth drwy greu dangosydd gweithgaredd i'w ddefnyddio ar gyfer pobl a chyfeiriadau
  • Methodoleg: Dyluniadau sampl effeithlon a gwella cywirdeb yr amcangyfrifon
  • Adran Polisi Cyhoeddus: Gwella'r ystadegau am nifer yr eiddo newydd sy'n cael eu hadeiladu. Yn ogystal, cyfrannu at wella'r amcangyfrifon am y stoc tai drwy alluogi addasiad eiddo gwag is-genedlaethol, nad yw'n bosib ar hyn o bryd rhwng cyfrifiadau
  • Rhaglen Newid y Cyfrifiad 2021: Help gyda'r gwaith cyfrif yn enwedig poblogaethau / ardaloedd daearyddol sy'n anodd i'w cyfrif. Sicrhau ansawdd a dilysu ymatebion ac amcangyfrifon y cyfrifiad, gwella cywirdeb amcangyfrifon y cyfrifiad (sicrhau bod pobl nad ydynt bellach yn byw'n y boblogaeth yn cael eu dileu) ac ychwanegu data coll ar gyfer pobl nad ydynt wedi ymateb i'r Cyfrifiad.

Y buddion i’r Cyngor o rannu'r wybodaeth yw:

  • Gwell ystadegau ar lefel awdurdod
  • Gwella'r gallu i adrodd ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill
  • Gwell ystadegau ar fewnfudo a demograffig ar lefel awdurdod lleol
  • Tystiolaeth ystadegol ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Ganolog
  • Mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddiddordeb hefyd ym mhotensial hirdymor y data hwn. Os gellir darparu'r data i'r SYG yn electronig, gall y SYG grynhoi a datgelu'r data i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol – gan arbed amser ac arian i awdurdodau lleol o beidio darparu'r data â llaw.
  • Mudo cylchol yn y DU. Gellir cyflawni hyn drwy gyfateb data’r Dreth Gyngor gyda chyfresi data gweinyddol eraill yn y SYG, gan wella'r dystiolaeth ystadegol Adran 45A Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (a fewnosodwyd gan Adran 79 Deddf yr Economi Ddigidol 2017). Mae'n caniatáu i unrhyw awdurdod cyhoeddus ddatgelu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'u swyddogaethau i'r Bwrdd Ystadegau (SYG). Mae'r porth cyfreithiol hwn yn galluogi SYG i weithio ar y cyd gyda chyflenwyr data gan gynnwys y llywodraeth ac awdurdodau lleol.

Y seiliau cyfreithiol ar gyfer rhannu data'r Dreth Gyngor gyda'r SYG o dan GDPR y DU yw:

  • Erthygl 6(1)(e) ar gyfer perfformiad ein tasg gyhoeddus
  • Erthygl 9(2)(j) at ddibenion ystadegol er budd y cyhoedd