Datganiad preifatrwydd Busnes


Gwasanaeth Cefnogi Busnes

Pam ein bod angen eich gwybodaeth

Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn asesu cymhwyster eich cais am gymorth ariannol neu at ddibenion gweinyddu asedau busnes a thiroedd y Cyngor ac yn ei ddefnyddio am ei fod yn rhan o’n tasg gyhoeddus.

Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth

Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am fod ganddo ddyletswydd i wneud hyn.

Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth?

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth efo Llywodraeth Cymru, swyddogion ac aelodau perthnasol Cyngor Gwynedd, prisiwr ac ymgynghorydd busnes wedi eu hapwyntio gan y Cyngor.

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am o leiaf chwe blynedd yn unol â’r canllawiau perthnasol.

Eich hawliau

Mae gennych chi hawliau cyfreithiol, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth ydynt. Ewch i’r safle yma ar ein gwefan i ddysgu am y rhain:

Datganiad Preifatrwydd

Swyddog Diogelu Data: Y cyfeiriad e-bost ydi swyddogdiogeludata@gwynedd.llyw.cymru

Os ydych yn dymuno cwyno am y ffordd mae’r Cyngor wedi defnyddio eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn y lle cyntaf.

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://ico.org.uk/concerns