Datganiad Preifatrwydd Covid-19

Datganiad preifatrwydd - staff gofal cartref a chartrefi preswyl

Datganiad preifatrwydd Cefnogi pobl fregus

Sut mae'r Cyngor yn defnyddio eich data personol yn ystod y Pandemig COVID-19

Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn egluro sut fydd Cyngor Gwynedd yn casglu, yn defnyddio ac yn gwarchod data personol yn benodol o ran y Pandemig COVID-19 (coronafirws).

Mae'r Cyngor yn cadw data ynghylch trigolion, gweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r defnydd a wneir o'r data hwn yn cael ei nodi yn Natganiad Preifatrwydd y Cyngor. Dan amgylchiadau arferol, byddai'r Cyngor yn darparu gwybodaeth i chi ynghylch unrhyw ddefnydd newydd a wneir o'ch data personol. Fodd bynnag, yn sgil y Pandemig cyfredol, efallai na fydd yn bosib bob amser i adlewyrchu ar y defnyddiau newydd neu newidiol a wneir o ddata personol a allai ddigwydd mewn ymateb i'r Pandemig COVID-19.

Yn ogystal, efallai y bydd angen i ni ofyn i chi yn ystod yr argyfwng presennol hwn, i ddarparu neu gael eich darparu â gwybodaeth bersonol gan gynnwys gwybodaeth bersonol sensitif, er enghraifft, eich oedran neu os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol gwaelodol neu os ydych yn fregus, nad ydych wedi'i gyflwyno'n barod. Pwrpas hyn yw i’r Cyngor allu eich cynorthwyo a blaenoriaethu ei wasanaethau.

Eich data personol

Mae data personol yn ymwneud ag unrhyw unigolyn byw y gellir ei adnabod o'r data hwnnw.

Mae peth o'ch data personol yn cael ei ddosbarthu gan ddeddfwriaeth diogelu data fel 'categorïau arbennig o ddata personol' gan ei fod yn cael ei ystyried yn fwy sensitif ei natur ac felly mae angen gwarchodaeth ychwanegol arno.
 

Y data personol yr ydym yn ei gasglu amdanoch chi

Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo peth neu'r cwbl o'r data personol a ganlyn, ac fe allai hyn gynnwys data categori arbenigol (sensitif):

  • Gwybodaeth bersonol sylfaenol, e.e. eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni
  • Cyfeiriad e-bost
  • Adnabyddwr cenedlaethol megis rhif GIG, Rhif Yswiriant Gwladol, ac ati.
  • Gwybodaeth am eich teulu
  • Manylion am eich ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Manylion am iechyd corfforol a meddyliol

Pam y gallwn ni ddefnyddio eich data personol

Gallwn ddefnyddio eich data personol er mwyn:

  • Rheoli risgiau iechyd cyhoeddus
  • Deall ymddygiad COVID-19
  • Rheoli lledaeniad yr haint
  • Darparu cefnogaeth a gwarchodaeth iechyd
  • Atal salwch
  • Monitro diogelwch y cyhoedd
  • Asesu argaeledd a chapasiti'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adnabod a diogelu unigolion sydd yn rhai risg uchel a bregus
  • Darparu gwybodaeth i'r cyhoedd, asiantaethau partner a Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19
  • Cydweithio ag asiantaethau partner, fel bod darpariaeth gwasanaeth hanfodol yn cael ei adnabod a'i gefnogi
  • Cynnal ymchwil a chynllunio argyfwng

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Bydd y ffordd yr ydym yn prosesu eich data personol yn pennu'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gan y Cyngor fel awdurdod cyhoeddus fydd:

  1. Mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ddefnyddio awdurdod swyddogol a ymddiriedwyd i'r rheolydd (Erthygl 6(1)GDPR)
  2. Lle bo datgelu er buddion hanfodol eich hun neu berson arall (Erthygl 6(1)(d) a 9(2)(c) GDPR)
  3. Lle mae'n angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol - Erthygl 9(2)(g)
  4. Lle mae er buddion iechyd cyhoeddus Erthygl 9(2)(i)

Rhannu eich data personol

Yn ystod y Pandemig COVID-19, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag awdurdodau cyhoeddus eraill, y gwasanaethau brys, a rhan-ddeiliaid eraill lle bo'r angen. Gwneir hyn mewn ffordd sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

 

Pa mor hir yr ydym yn cadw eich data personol

Ni fyddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y bo'n angenrheidiol i'r dibenion yr ydym yn ei brosesu, oni bai bod gennym reswm dilys am ei gadw, er enghraifft, os bydd unrhyw ofyniad cyfreithiol i gadw'r data am gyfnod penodol o amser. Pan nad oes angen mwyach i barhau i brosesu eich data personol, byddwn yn ei waredu mewn ffordd ddiogel.
 

Eich hawliau a'ch data personol

Gweld mwy o wybodaeth