Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Datganiad Preifatrwydd

Pam ein bod angen eich gwybodaeth

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth i asesu eich cais am grant UKSPF drwy rannu'r wybodaeth â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru, 3ydd Mudiadau Sector ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill, yn ddibynnol ar werth eich cais.

Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych wrth weinyddu rhaglen UKSPF ac i fonitro a gwerthuso'r prosiect/rhaglen.

Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau, bydd hyn yn penderfynu a fydd eich cais am grant yn llwyddiannus ai peidio.  Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth tra bod y prosiect yn cael ei weithredu, er mwyn gweinyddu, monitro a gwerthuso cynnydd eich prosiect.

Mae gennym ddyletswydd hefyd o dan y sail gyfreithiol ganlynol:

Atal/canfod troseddau, gan gynnwys cynrychiolaeth ffug yn unol â'r Ddeddf Twyll.

Bydd y Cyngor yn dibynnu ar log dilys, Erthygl 6 (1) (f) UK GDPR i brosesu'r wybodaeth bersonol mewn perthynas â phrosesu gwybodaeth bersonol yn eich Cais am Grant UKSPF.

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth 

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth efo  sefydliadau isod:

Llywodraeth y DU

Llywodraeth Cymru
Awdurdodau Lleol eraill o fewn Ngogledd Cymru
Sefydliadau 3ydd Sector
ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill

Rhennir unrhyw wybodaeth ar sail angen gwybod yn unig, gyda’r unigolion addas a gyda’r lleiafswm o wybodaeth ar gyfer y pwrpas.

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod o 10 mlynedd wedi taliad olaf o’r grant.

Eich hawliau 

I gael gwybod am eich hawliau a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r Cyngor, ewch i’r RhybuddPreifatrwydd