Datganiad hygyrchedd ap Cyngor Gwynedd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i ap Cyngor Gwynedd.

Cyngor Gwynedd sy'n cynnal yr ap, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu ei ddefnyddio.

Pa mor hygyrch ydi’r ap 

Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o’r ap yn gwbl hygyrch:

  • Mae rhannau o’r ap a’r ffurflenni ar-lein yn anodd i’w llenwi drwy ddefnyddio bysellfwrdd a meddalwedd darllen sgrîn yn unig – cysylltwch â ni os am eu derbyn mewn fformat gwahanol.
  • Nid yw rhai lincs na delweddau ar y ap yn hygyrch. 

Adborth a manylion cyswllt

Os ydych chi angen gwybodaeth ar yr ap hwn mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i’w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â: 

Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod i ni am broblemau efo'r ap

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd yr ap. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:  gwefan@gwynedd.llyw.cymru 
 

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb

Mae nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â ni: www.gwynedd.llyw.cymru/cysylltu

Mae dolenni cyflwyno sain ar gael yn nerbynfeydd Siop Gwynedd.


Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud yr ap hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r datganiad hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau asesiad hygyrchedd llawn gafodd ei gomisiynu gan The Digital Accessibility Centre (DAC).

 

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r ap hwn yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi ei nodi isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd:  

  1. Nid yw’r ffocws wastad wedi ei osod ar yr ardal gywir pan mae tudalen yn llwytho. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf  y WCAG 2.2 A criteria 2.4.3 Ffocws a Threfn. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Medi 2024.
  2. Pan mae’r ddewislen yn agor, mae’r cynnwys ar y dudalen o dan y ddewislen  yn cael ei ddarllen gan VoiceOver.  Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf  y WCAG 2.2 A criteria 2.4.3 Ffocws a Threfn. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Medi 2024.
  3. Mae rhai elfennau heb labeli. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf  y WCAG 2.2 A criteria 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas a 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth.Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Medi 2024.
  4. Mae rhai lincs ar y tudalennau sydd ddim wedi eu marcio fel lincs. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf  y WCAG 2.2 A criteria 2.4.4 Pwrpas Linc ac 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Medi 2024.
  5. Mae peth cynnwys ar y tudalennau nad oes modd cael mynediad ato drwy VoiceOver.Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf  y WCAG 2.2 A criteria 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas a  2.1.1 Bysellfwrdd. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Medi 2024.
  6. Nid yw’n bosib newid maint y testun drwy’r nodwedd hygyrchedd, neu mae’r cynnwys yn gorgyffwrdd pan mae’r maint yn cael ei chwyddo. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf  y WCAG 2.2 AA criteria 1.4.4 Newid maint testun. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Medi 2024.
  7. Mae rhai elfennau ar y ffurflenni heb ddisgrifiad o’u pwrpas na’u swyddogaeth. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf  y WCAG 2.2 AA criteria 2.4.6 Pennawd a Labeli. Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Medi 2024.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol. Nid ydym yn honni bod unrhyw faterion hygyrchedd yn afresymol i’w datrys. 


Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn trwsio cynnwys sy'n methu â chyrraedd canllaw 2.2 A a 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fel mater o frys. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hygyrchedd hwn wrth i faterion gael eu datrys.


Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei lunio ar 15 Mehefin 2021. 

Cafodd yr ap ei brofi gan The Digital Accessibility Centre (DAC) yn ystod mis Hydref 2021.

Cafodd y datganiad hwn ei adolygu a’i ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Mawrth 2024.