Mae cefnogaeth ar gael i ateb ymholiadau ynglŷn â chyfarfodydd y Cyngor gan Swyddogion Cefnogi Aelodau'r Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.
Darperir cardiau adnabod i bob Cynghorydd er caniatáu mynediad i adeiladau ac ystafelloedd y Cyngor.
Darpariaeth gyfrifiadurol
Mae holl waith y Cyngor yn cael ei wneud yn electronig ble mae’n bosib, ac o ganlyniad mae technoleg gwybodaeth yn rhan hanfodol o swydd Cynghorydd.
Peiriannau Surface yw’r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer cynghorwyr gyda’r holl feddalwedd sydd ei angen ar gyfer gwaith y Cyngor. Byddwch yn derbyn cyfrif a chyfeiriad e-bost ar gyfer gwaith y Cyngor. Cynigir hyfforddiant ar holl agweddau technoleg gwybodaeth a sesiynau hyfforddiant 1-1 i unrhyw aelod sy’n dymuno, yn ychwanegol i’r ddesg gymorth sy’n ymdrin â phroblemau technegol.
Cyfarfodydd
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael ar gyfer pob cyfarfod.
Fel arfer cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn ystod oriau gwaith swyddfa. Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Llawn (75 aelod) yn Siambr Dafydd Orwig Caernarfon. Cynhelir cyfarfodydd swyddogol eraill y Cyngor yng Nghaernarfon, Dolgellau a Phwllheli gyda rhai cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda’r nos. Cynhelir nifer o gyfarfodydd answyddogol drwy fideo gynadleddau rhwng Caernarfon, Dolgellau a Phwllheli i arbed amser teithio.
Caiff cyfarfodydd y Cyngor Llawn, y Pwyllgor Cynllunio (pan cynhelir y cyfarfod yng Nghaernarfon) ac unrhyw bwyllgor arall sy'n debygol o fod o ddiddordeb i’r cyhoedd eu gwe-ddarlledu. Ystyr gwe-ddarlledu yw darlledu fideo a sain ar y rhyngrwyd. Bydd camerâu yn siambrau'r Cyngor yn cofnodi'r drafodaeth fyw a bydd modd i'r sawl sydd am wylio wneud hynny drwy fynd i wefan y Cyngor.
Cofnodir presenoldeb Cynghorwyr ym mhob cyfarfod ac yn eu gosod ar safle we’r Cyngor. Mae’r safle we yn cynnwys enw, llun â manylion cyswllt pob Cynghorydd.
Darpariaeth ar gyfer Cynghorwyr anabl
Mae adeiladau’r Cyngor yn addas ar gyfer pobl anabl gyda lle parcio ar gyfer pobl anabl yn agos i’r adeiladau. Mae lifft ym mhrif adeiladau’r Cyngor i gael mynediad i ystafelloedd cyfarfodydd ac mae darpariaeth arbennig ar gael pe bae angen gwagio adeilad mewn argyfwng.
Cyfleusterau eraill
Mae swyddfeydd penodol ar gyfer aelodau’r Cabinet i’w defnyddio, ac i Arweinydd y Cyngor hefyd. Darperir ystafelloedd hefyd ar gyfer y prif grwpiau gwleidyddol.
Mae Lolfa yng Nghaernarfon a chyfleusterau te a choffi ar gyfer Cynghorwyr.