Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol
Y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol yw haen reolaethol uchaf y Cyngor. Mae’n cynnwys y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol, ac mae’n gyfrifol am wireddu blaenoriaethau strategol y Cyngor yn ogystal â sicrhau llywodraethiant effeithiol.
PRIF WEITHREDWR
Dafydd Gibbard
Rhif ffôn: (01286) 679 002
Y Prif Weithredwr yw’r swyddog uchaf ac mae’n gyfrifol am yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y Cyngor. Mae rôl y Prif Weithredwr yn cynnwys:
- Arweinyddiaeth: Gweithio gydag Aelodau Etholedig y Cyngor i sicrhau arweinyddiaeth a chyfeiriad cryf a gweladwy. Annog a galluogi rheolwyr i gymell ac ysbrydoli eu staff i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt gan y Cyngor.
- Cyfeiriad strategol: Gwireddu’r blaenoriaethau strategol a osodwyd gan Aelodau Etholedig y Cyngor a rhanddeiliaid, trwy sicrhau fod staff yn eu deall a’u dilyn.
- Cyngor polisi: Gweithredu fel y prif gynghorydd polisi i Aelodau Etholedig y Cyngor.
- Partneriaethau: Arwain a datblygu partneriaethau cryf gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, busnesau a grwpiau gwirfoddol ar draws Gwynedd a thu hwnt i wella ansawdd bywyd yn y Sir.
- Llywodraethiant: Goruchwylio a chydlynu rheolaeth ariannol a pherfformiad, rheoli risg a rheoli newid o fewn y Cyngor.
Mae pedwar adran ym mhortffolio’r Prif Weithredwr. Yn y meysydd hyn, mae’r Prif Weithredwr yn arwain ar waith strategol yn ogystal â threfniadau herio perfformiad.
-Economi a Chymuned.
-Amgylchedd.
-Tai ac Eiddo.
-Addysg.
Mae'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn dirprwyo ar gyfer a chefnogi'r Prif Weithredwr. Maent yn gyfrifol am yr adrannau a nodir isod. Yma, mae’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn arwain ar waith strategol yn ogystal â threfniadau herio perfformiad.
CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL (GWASANAETHAU CYMDEITHASOL)
Dylan Owen
Rhif ffôn: (01286) 679 923
Mae'r adrannau isod ym mhortffolio'r Cyfarwyddwr:
-Plant a Chefnogi Teuluoedd.
-Oedolion, Iechyd a Llesiant
CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL
Geraint Owen
Rhif ffôn: (01286) 679 387
Mae'r adrannau isod ym mhortffolio'r Cyfarwyddwr:
-Cefnogaeth Gorfforaethol.
-Cyllid a TG.
-Gwasanaethau Cyfreithiol.
-Priffyrdd, Peirianneg ac YGC.