Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Llety

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Hydref 2025

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau deddfwriaeth newydd ar gyfer ardoll ymwelwyr, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym Medi 2025. Mae’r gyfraith newydd yn rhoi’r hawl i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno tâl bach ar arosiadau dros nos gan ymwelwyr, gyda’r nod o gefnogi twristiaeth gynaliadwy.

Nid yw Cyngor Gwynedd wedi gwneud penderfyniad eto ynghylch cyflwyno ardoll yn lleol. Mae’r dudalen hon yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y gallai’r ardoll ei olygu i fusnesau a chymunedau Gwynedd, ynghyd â dolenni defnyddiol a chwestiynau cyffredin.

 

Beth yw’r Ardoll Ymwelwyr?

  • Bydd yr ardoll yn dâl dyddiol a delir gan bobl sy’n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, megis gwestai, bythynnod gwyliau, llety gwely a brecwast, a meysydd gwersylla.
  • Ei nod yw creu etifeddiaeth barhaol i gymunedau, diwylliant, yr iaith a’r amgylchedd drwy ail fuddsoddi’r incwm yn ôl i economi ymweld leol.
  • Bydd yr ardoll yn cael ei weinyddu’n genedlaethol gan yr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar ran Llywodraeth Cymru ac unrhyw awdurdod lleol sy’n penderfynu ei gyflwyno.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety i ymwelwyr. 

Gweler hefyd: Llywodraeth Cymru - Yr ardoll ymwelwyr: cyfraniad bach ar gyfer etifeddiaeth barhaol

 

Cofrestru a thrwyddedu llety yng Nghymru

  • Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fydd yn gyfrifol am gasglu a gorfodi’r ardoll ar lefel genedlaethol. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gorff cyhoeddus sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.
  • Nid oes disgwyl i fusnesau sefydlu eu systemau eu hunain, mae ACC yn datblygu system mor syml â phosibl, ar sail hunan-asesiad.
  • Bydd modd adrodd yn chwarterol neu’n flynyddol unwaith y bydd yr ardoll ar waith.
  • Y cam cyntaf fydd cofrestru holl lety gwyliau yng Nghymru, o Fedi 2026 ymlaen. Bydd hyn yn digwydd ym mhob awdurdod lleol, hyd yn oed os na fydd yr ardoll yn cael ei gyflwyno’n lleol.
  • Bydd yn rhaid i ddarparwyr roi gwybodaeth sylfaenol fel math o lety, nifer y gwelyau, perchnogaeth, a chadarnhad eu bod yn bodloni gofynion diogelwch.
  • Bydd ddeddfwriaeth pellach yn cael i'w cyflwyno i'r Senedd Tachwedd 2025 o ran gofynion trwyddedu.
  • Mae mwy wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru: Trwyddedu llety ymwelwyr yng Nghymru

 

Amserlen

  • Tachwedd 2025 - Cyflwyno deddf Trwyddedu llety yng Nghymru i’r Senedd

  • Medi 2026 – dechrau cofrestru llety gwyliau ledled Cymru.

  • Ebrill 2027 – y dyddiad cynharaf y gallai ardoll gael ei chyflwyno mewn unrhyw ardal yng Nghymru.
  • Mae angen cynnal ymgynghoriad a rhoi rhybudd o 12 mis cyn i’r ardoll ddod i rym yn lleol.
  • Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Gwynedd wedi gwneud penderfyniad ynghylch cyflwyno’r ardoll.

 

Effaith Bosibl yng Ngwynedd

Mae amcangyfrifon presennol Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gellid codi tua £6 miliwn y flwyddyn yng Ngwynedd, maen’t wedi rhoi arweiniad o ran y meysydd lle dylid buddsoddi yr lefi yn lleol sef:

  • sicrhau bod traethau, parciau a chanol trefi yn cael eu cynnal a’u cadw’n well
  • gwell atyniadau diwylliannol
  • twristiaeth gynaliadwy sydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol
  • cefnogi'r Gymraeg yn ein cymunedau

Ni fydd y Cyngor ei hun yn gweinyddu na chasglu’r ardoll. ACC fydd yn gwneud hynny ar lefel genedlaethol. Bydd rôl Cyngor Gwynedd yn canolbwyntio ar bartneriaethau lleol, cyfathrebu, marchnata, a rheoli prosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr incwm.

 

Cysylltau defnyddiol

 

Cwestiynau Cyffredin

Ydy Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cyflwyno ardoll?
Na. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto. Bydd angen ymgynghoriad a rhoi rhybudd swyddogol cyn i’r ardoll ddod i rym.


Pwy fydd yn casglu’r ardoll?
Yr Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn gweinyddu, cefnogi a gorfodi’r ardoll ar lefel genedlaethol.


A fydd yn rhaid i fusnesau reoli’r ardoll eu hunain?
Na. Bydd y system yn cael ei chynllunio i fod mor syml â phosibl, gyda’r posibilrwydd o adrodd chwarterol neu flynyddol.


Pryd fydd yr ardoll yn dechrau?
Y dyddiad cynharaf yw 1 Ebrill 2027, ar ôl ymgynghori a rhoi rhybudd priodol.


Faint o arian allai gael ei godi yng Ngwynedd?
Amcangyfrif presennol yw tua £6 miliwn y flwyddyn, i’w fuddsoddi mewn cymunedau lleol, diwylliant a seilwaith twristiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arweiniad o ran y meysydd blaenoriaeth o ran y buddsoddiadau:

  • sicrhau bod traethau, parciau a chanol trefi yn cael eu cynnal a’u cadw’n well
  • gwell atyniadau diwylliannol
  • twristiaeth gynaliadwy sydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol
  • cefnogi'r Gymraeg yn ein cymunedau


Sut alla i gymryd rhan yn y trafodaethau?
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu cynnal sesiynau gyda rhanddeiliaid yn y dyfodol.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth am y sesiynau hyn, cysylltwch â ni i gofrestru eich diddordeb.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth trwy Bwletin Busnes ac yn diweddaru’r wefan hon. 

Tanysgrifio i dderbyn y Bwletin Cefnogi Busnes