Triniaethau tyllu croen
Cynllun Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig
Daeth y cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig newydd i rym ar 29 o Dachwedd 2024, dan Rhan 4 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017.
Mae yn angenrheidiol i unrhyw weithredwr sy'n perfformio un o'r gweithdrefnau arbennig a ddiffiniwyd yn y gweithdrefnau ar rywun arall yng Nghymru fod wedi'u trwyddedu (mae'r drwydded hon yn cael ei galw'n 'Drwydded Gweithdrefnau Arbennig').
Yn ogystal, mae'n rhaid i'r lleoliad (eiddo neu cherbyd) y mae gweithredwyr gweithdrefnau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo (a elwir yn 'Tystysgrif Eiddo Cymeradwy').
Y gweithdrefnau penodol a ddiffiniwyd yn Adran 57 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yw:
- aciwbigo (gan gynnwys nodwydd sych)
- tyllu’r corff (gan gynnwys torri clustiau)
- electrolysis
- tatŵio (gan gynnwys colur lled barhaol / microlafnu)
Mae'n rhaid i bob ymarferydd gael Trwydded Gweithdrefn Arbennig eu hunain, a bydd hyn yn galluogi gweithredu mewn lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo gyda Tystysgrif Eiddo Cymeradwy.
Mae gan y cynllun ofynion/amodau gorfodol ar gyfer ymarferwyr a lleoliadau. Mae'n rhaid gydymffurfio â'r gofynion/amodau hyn i dderbyn Trwydded Gweithdrefn Arbennig a/Tystysgrif Eiddo Cymeradwy.
Bydd Trwydded Gweithdrefnau Arbennig a Tystysgrif Eiddo Cymerwadwy yn ddilys am 3 blynedd o ddyddiad caniatau y drwydded.
Bydd trwyddedau dros dro yn ddilys am ddim mwy na 7 diwrnod.
Bydd angen i ymarferwyr wneud cais i'r Awdurdod Lleol ble mae bwriad ir weithdrefnau arbennig cael ei gynnal. Os ydych yn ymarfer mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru, dylech wneud cais i'r Awdurdod Lleol ble rydych yn cyflawni'r mwyafrif o'ch gweithdrefnau arbennig.
Mae'r drwydded gweithdrefn arbennig yn ddilys ar gyfer gweddill Cymru, cyn belled â bod tystysgrif cymeradwyo lleoliad wedi'i rhoi a bod y lleoliadau hynny wedi'u rhestru/ymddangos ar Drwydded Gweithdrefnau Arbennig ymarferydd.
Bydd Drwyddedau Gweithdrefn Arbennig Dros Dro yn cael eu cyfyngu i ddigwyddiad penodol a/gydag amser penodol. Bydd hyn yn golygu y bydd rhaid gwneud cais newydd ar gyfer pob digwyddiad ar wahân (oni bai bod gan ymarferydd drwydded 3 blynedd).
Ymarferwyr sy'n byw y tu allan i Gymru ond sy'n gweithio yng Nghymru, bydd angen iddynt gael trwydded gweithdrefnau arbennig dros dro (os yw’n anarferol a dim mwy na 7 diwrnod) neu drwydded gweithdrefnau arbennig am dri blynedd.
Mae'n drosedd i ymarferydd gynnal gweithdrefn arbennig heb drwydded neu i berfformio unrhyw weithdrefnau o leoliad sydd heb ei gymeradwyo. Mae hefyd yn drosedd peidio â chydymffurfio â'r gofynion penodol/amodau gorfodol a manylwyd yn y Rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a lleoliadau.
Gwneud Cais am drwydded Ymarferydd (gweithdrefnau arbennig)
Rhaid cyflwyno ceisiadau am drwydded ymarferydd (gweithdrefnau arbennig) i Gyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r ffurflen gais canlynol a chynnwys dogfennau ategol a ffi.
Mae'n rhaid i'r holl geiswyr fod yn 18 oed neu'n hyn.
Ffurflen gais am drwydded Ymarferydd
Dogfennau cefnogol ar gyfer cais Trwydded Ymarferydd
- Un llun lliw, wyneb llawn o’r ymgeisydd (arddull pasbort)
- Tystiolaeth o yswiriant dilys yn ymwneud â pherfformiad gweithdrefnau arbennig.
- Tystysgrif Datgelu Sylfaenol dilys (DBS) a gynhelir yn y 3 mis neu lai cyn dyddiad y cais.
- Datganiad o droseddau perthnasol (yn unol â'r Ddeddf).
- Tystiolaeth o gwblhau yn llwyddiannus Tystysgrif Gradd 2 mewn Heintiau, Atal & Rheoli ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig (gwobr sy’n rheoleiddiedig gan Cymwysterau Cymru)
- Gwirio enw a dyddiad geni (e.e. pasbort, trwydded yrrwr ayyb).
- Gwirio cyfeiriad preswyl presennol (e.e. trwydded yrrwr, llythyr treth cyngor, bil defnyddiau ayyb).
Ffi'r Trwydded
Trwydded | Newydd | Adnewyddu |
Trwydded Gweithdrefnau Arbennig (3 mlynedd). |
£203.00 |
£189.00 |
Ffioedd eraill
Ffioedd eraill
Eitem | Ffi |
Trwydded gweithdrefnau arbennig dros dro (mwyafrif 7 diwrnod). |
£92.00 |
Amrywio trwydded gweithdrefnau arbennig (ychwanegu gweithdrefn newydd i drwydded). |
£131.00 |
Amrywio trwydded gweithdrefnau arbennig (newid manylion ar drwydded). |
£26.00 |
Copi newydd o Drwydded Gweithdrefnau Arbennig |
£13.00 |
Gwneud cais am Dystysgrif Eiddo Cymeradwy
Rhaid i'r rhai sy'n dymuno cael tystysgrif cymeradwyo ar gyfer eiddo/cerbyd gyflwyno cais i Gyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r ffurflen ganlynol a chynnwys dogfennau ategol a ffi.
Mae'n rhaid i'r holl geiswyr fod yn 18 oed neu'n hyn.
Ffurflen gais Tystysgrif Eiddo Cymeradwy
Bydd angen cyflwyno’r ddogfennau cefnogol canlynol gyda'r cais.
- Un llun lliw, wyneb llawn o’r ymgeisydd (arddull pasbort)
- Tystiolaeth o yswiriant dilys a gynhelir gan yr ymgeisydd o ran y lleoliad neu’r cerbyd.
- Tystiolaeth o gwblhau llwyddiannus Tystysgrif lefel 2 rheoledig mewn Heintiau, Atal & Rheolaeth ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig (gwobr sy’n cael ei rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru)
- Dilysiad o enw a dyddiad geni (e.e. pasbort, trwydded yrrwr ac ati).
- Dilysiad o gyfeiriad preswyl cyfredol (e.e. trwydded yrrwr, llythyr treth cyngor, bil defnyddiau ac ati).
- Cynllun o’r lleoliad/cerbyd (dylai gynnwys pwyntiau mynediad/gadawiad i’r lleoliad ac i unrhyw ystafelloedd, mesuriad, a siâp unrhyw ystafell o fewn y lleoliad a lleoliad y cyfarpar basnau, ystafelloedd staff, ardal storio/ystafelloedd ar gyfer cynnyrch a chymhwysedd, toiledau, ardaloedd/ystafelloedd aros, basnau golchi dwylo, biniau gwastraff, ffenestri a gorsaf waith).
- Llun lliw diweddar o’r cerbyd (os yw’n gymwys)
Ffi'r Trwydded
Tyllu'r croen
Trwydded | Newydd | Adnewyddu |
Tystysgrif Eiddo Cymeradwy (3 Blynedd) |
£385.00 |
£345.00 |
Ffioedd eraill
Ffioedd eraill
Eitem | Ffi |
Tystysgrif Eiddo/Cerbyd cymeradwy – cymeradwyo dros dro (digwyddiad ategol) |
£385.00 |
Tystysgrif Eiddo/Cerbyd cymeradwy – cymeradwyo dros dro (cyfarfod/prif bwrpas) |
£680.00 |
Amrywio tystysgrif Eiddo/cerbyd Cymeradwy (ychwanegu gweithdrefn newydd i drwydded) |
£189.00 |
Amrywio Tystysgrif Eiddo/Cerbyd cymeradwy (newid mewn strwythur) |
£189.00 |
Amrywio tystysgrif Eiddo/cerbyd Cymeradwy (newid manylion) |
£26.00 |
Mwy o gymorth
Cysylltwch â ni
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig, os gwelwch yn dda anfonwch e-bost at trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru