Palmant (caffi ar y stryd)

Er mwyn rhoi byrddau, cadeiriau a dodrefn dros dro eraill ar y palmant yn Lloegr a Chymru rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol.

Gellir rhoi amodau ar y drwydded ac efallai y bydd ffi’n daladwy.

Mae’n bosib y bydd angen caniatâd blaeniad a llwybr troed yn gyntaf.

Proses gwerthuso’r cais
Rhaid rhoi hysbysiad cyhoeddus o’r cais, gyda manylion yr hyn y bwriedir ei wneud a’r dyddiad cau ar gyfer cynrychioliadau.

Rhaid ystyried pob cynrychioliad a dderbynnir. Rhaid ymgynghori â phob awdurdod perthnasol arall.

Ni ddylid dal caniatâd yn ôl yn afresymol.

Gwneud cais
Gallwch lenwi'r ffurflen gais a'i hanfon yma:Ffurflen Gais trwydded palmant (caffi ar y stryd)

Am fwy o wybodaeth ffoniwch: 01766 771000.


Deddfau perthnasol
Deddf Priffyrdd 1980 adran 115B / 115E (cyswllt i wefan allanol – Saesneg yn unig)

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf. Bydd cyflafareddwr penodedig yn penderfynu a ddaliwyd caniatâd yn ôl yn afresymol.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf. Bydd cyflafareddwr penodedig yn barnu os oes anghytundeb ynglŷn â’r amodau a roddwyd.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).