Meddiannu'r briffordd oherwydd gwaith adeiladu

Mae’n rhaid cael trwydded i gloddio dros dro yn yn stryd neu i gadw deunyddiau neu offer dros dro ar ochr y briffordd. 

 

Sut ydw i’n gwneud cais?

Cwmniau neu unigolion sydd ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth £5 miliwn sydd yn gallu gwneud cais.   

Rhaid lawrlwytho ffurflen gais a'i hanfon i'r Uned Gofal Stryd (gyda'r ffi) er mwyn gweld os yw'r safle yn addas a'i dychwelyd i'r cyfeiriad isod.


Cyfeiriad: Uned Gwaith Stryd, Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01766 771 000

 

Noder: Rhaid caniatáu hyd at 15 diwrnod gwaith i roi ystyriaeth i’ch cais (gan gynnwys cyfnod ymgynghori).  Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr gan gynrychiolydd o’r Uned Gofal Stryd o fewn 10 ddiwrnod gwaith.

 

Beth yw’r gost?

  • £161 (yr wythnos) i gadw/gosod deunyddiau ar y briffordd
  • £262 yw cais i gloddio'r briffordd dros dro

Noder: Bydd angen talu’r ffi perthnasol cyn i’ch cais gael ei ystyried.  Petai’r cais yn llwyddiannus byddwch yn derbyn trwydded gan yr uned Gofal Stryd.    

    

Sut mae talu?

Ffôn: Ffoniwch 01766 771 000 i dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd.
Post: Gallwch amgáu’r ffi berthnasol gyda’r ffurflen gais (siec yn daladwy i Cyngor Gwynedd)

Noder: Ni fydd ad-daliad os fydd cais yn aflwyddiannus.