Gamblo/ Hapchwarae

Cyngor Gwynedd yw'r awdurdod trwyddedu dan Ddeddf Hapchwarae 2005

Mae’n rheoleiddio'r holl drwyddedau eiddo, hysbysiadau, hawlenni a chofrestriadau sy'n syrthio o fewn darpariaethau'r Ddeddf, sef:

Trwyddedau Eiddo 

  • Casino;
  • Eiddo Bingo;
  • Eiddo Betio;
  • Traciau (safle ble mae rasys neu ddigwyddiadau chwaraeon eraill yn cael eu cynnal);
  • Canolfannau Hapchwarae i Oedolion;
  • Canolfannau Adloniant Teulu Trwyddedig;

Hysbysiadau

  • Hysbysiadau Defnydd Dros Dro
  • Hysbysiadau Defnydd Achlysurol

Hawlenni

  • Hawlen Peiriannau Hapchwarae Canolfan Adloniant Teulu;
  • Hawlen Clwb Hapchwarae;
  • Hawlen Clwb Peiriannau Hapchwarae; 
  • Hawlen Peiriannau Hapchwarae gyda thrwydded Alcohol;
  • Hawlen Gemau am Wobrau; 

Cofrestriadau

  • Cofrestru loteri Cymdeithasau Bychan.

Gwneud cais
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Ffi
Cysylltwch a’r Uned Drwyddedu am wybodaeth am y ffioedd cyfredol drwy Trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.

 

Mae’r Ddeddf Hapchwarae 2005 yn dweud ein bod angen cyhoeddi Polisi Hapchwarae bob tair blynedd. Mae’r  Polisi presennol angen ei adolygu; ac rydym yn ymgynghori ar bolisi newydd.

Paham yr ydym yn ymgynghori

Mae’r Polisi Hapchwarae yn amlinellu sut yr ydym yn cyfarch ein cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Hapchwarae 2005. Rydym yn awyddus i glywed barn ein preswylwyr, busnesau, gweithredwyr hapchwarae , awdurdodau cyfrifol a phartïon eraill hefo diddordeb er mwyn ein cynorthwyo i lunio ein polisi.

Beth sy’n digwydd nesaf

Pan fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben, byddwn yn defnyddio’r ymatebion i’n cynorthwyo i lunio fersiwn terfynol o’r Polisi Hapchware am 2017-2020. Fe fydd y polisi yn cael ei drafod gan Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu;  a’r Cyngor llawn fydd yn gwneud penderfyniad ar y fersiwn terfynol yn ystod tymor yr  Hydref 2017.

Sut i ymateb

Os ydych yn awyddus i ymateb i’r ymgynghoriad fe allwch wneud hynny, yn ysgrifenedig cyn 12 Gorffennaf 2017.

Anfonwch eich ymateb ysgrifenedig at yr Uned Drwyddedu:

Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
Cyngor Gwynedd 
Stryd y Jêl 
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

Neu drwy e bost - Trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru