Trwydded tai amlbreswyliaeth

Tŷ amlbreswyliaeth yw tŷ neu fflat sy’n brif gartref i ddau aelwyd neu fwy a ble mae rhai o’r aelwydydd yn rhannu cyfleusterau sylfaenol fel ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio.

Os ydych yn gosod eiddo fel tŷ amlbreswyliaeth, efallai fod arnoch angen trwydded gan eich awdurdod lleol.

Amcan y trwyddedu yw sicrhau bod landlordiaid yn bobl gymwys ac addas, bod y llety’n cyrraedd y safonau angenrheidiol a bod tai risg uchel yn cael sylw.

Mae’n drosedd rhedeg tŷ amlbreswyliaeth heb drwydded. Gellir mynd â pherchnogion a rheolwyr sy’n gwneud hynny i’r llys a rhoi dirwy o £20,000 iddynt am y drosedd, a gall tenantiaid wneud cais am orchymyn Ad-dalu Rhent, fyddai’n golygu bod y landlord yn gorfod talu gwerth hyd at 12 mis o rent yn ôl.

I dderbyn ffurflen gais ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:


Mae 2 fath o drwydded:

  1. Trwydded orfodol
    Ar gyfer tŷ â 3 llawr neu fwy, lle mae mwy na 5 person o ddau aelwyd neu fwy yn byw. Y ffi am drwydded orfodol yw £160 am bob uned yn ogystal â £50 i brosesu'r cais.
  2. Trwydded ychwanegol
    Ar gyfer pob tŷ arall mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu gwneud y drwydded ychwanegol yn daladwy drwy Wynedd er mwyn cynnal safonau. Y ffi am y drwydded hon yw £160 am bob uned yn ychwanegol i £50 i brosesu'r cais.

Meini prawf cymhwysedd

  • Rhaid gwneud cais i’r awdurdod tai lleol.
  • Bydd ffi yn daladwy.
  • Rhaid i chi fod yn berson cymwys a phriodol i ddal y drwydded.

 

Proses gwerthuso’r cais

Caniateir trwydded:

  • os yw’r tŷ yn addas ar gyfer amlbreswyliaeth, neu os gellir ei wneud yn addas
  • os yw’r ymgeisydd yn berson addas a chymwys ac mai nhw yw’r person mwyaf addas i ddal y drwydded
  • os oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth ar y tŷ, a’i fod yn berson addas a chymwys i fod yn rheolwr
  • os yw’r trefniadau rheoli’n foddhaol.

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â nhw.

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gallwch apelio mewn tribiwnlys eiddo preswyl.

Rhaid gwneud unrhyw apêl o fewn 28 diwrnod i’r penderfyniad.

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gallwch apelio mewn tribiwnlys eiddo preswyl ynglŷn ag amodau a roddwyd ar drwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu dynnu trwydded yn ôl.

Rhaid gwneud unrhyw apêl o fewn 28 diwrnod i’r penderfyniad.

Fel tenant, mae gennych yr hawl i gysylltu â'ch Asiant neu Landlord er mwyn gwybod a oes gan eich eiddo drwydded amlbreswyliaeth (HMO) ai peidio. 

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni gyda manylion yr eiddo er mwyn i ni wirio'r gofrestr.

Mae copi o’r rhestr gyhoeddus TAD ar gael i’w weld yn Galw Gwynedd, Swyddfa Pencadlys, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH. Cysylltwch â ni ar 01286 685100 er mwyn trefnu apwyntiad.

Mae copi electronig o’r rhestr hefyd ar gael am ffi o £75 drwy drosglwyddiad banc.

Rhybuddion cyhoeddus

Deddfau perthnasol