Hysbysebu Trwyddedau

Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, mae'n ofynnol i'r Cyngor hysbysebu'r ceisiadau canlynol ar ei wefan.

  • cais am drwydded eiddo
  • cais am ddatganiad darparieithol
  • cais i amrywio trwydded eiddo
  • cais am dystysgrif eiddo clwb
  • cais i amrywio tystysgrif eiddo clwb

Mae ceisiadau yn agored i sylwadau am gyfnod o 28 diwrnod.

 

Sylwadau

Rhaid i bob sylw gael ei wneud yn ysgrifenedig a bod yn berthnasol i un neu fwy o'r pedwar amcan trwyddedu.

1. Atal trosedd ac anhrefn

2. Diogelwch y cyhoedd

3. Atal niwsans cyhoeddus

4. Amddiffyn plant rhag niwed

 

Rhaid i sylwadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth neu brofiad ac nid ar ddyfalu.

Ni fydd sylwadau sy'n ymwneud â chystadleuaeth gan fusnesau eraill yn cael eu hystyried.

Ni fydd sylwadau a ystyrir yn wamal neu'n flinderus yn cael eu hystyried.

Ni ellir ystyried sylwadau dienw yn berthnasol gan na allwn wirio a ydynt yn wamal neu'n flinderus.

Rhaid derbyn sylwadau o fewn y cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Ni ellir ystyried sylwadau hwyr.

Os nad yw sylw yn ymwneud ag un neu fwy o'r Amcanion Trwyddedu bydd yn annilys ac yn cael ei wrthod.

 

Sut i gyflwyno Cynrychiolaeth

Gallwch gyflwyno'ch cynrychiolaeth ar-lein, trwy e-bost neu trwy'r post.

Ar-lein:

Gweld y ceisiadau agored i ymgynghoriad a chyflwyno cynrychiolaeth gan ddefnyddio ein Cofrestr Trwyddedau.

Gweld cofrestr trwyddedau

Trwy E-bost: Trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru

Trwy'r post:

Swyddog Trwyddedu

Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1SH

Dalier Sylw: Mae'n drosedd i wneud datganiad ffug yn fwriadol neu yn ddi-hid mewn perthynas â chais, a'r ddirwy uchaf y gall person ei wynebu os yw'n euog o'r drosedd yma yw £5,000. 


Hysbysiadau cyfredol

Mae'n bosib gweld ceisiadau ar gyfer ymgynghori cyfredol ar y gofrestr trwyddedau ar-lein:

Gweld cofrestr trwyddedau