Cyfleon tendro

Mae'r linc isod yn cynnwys rhestr o'r contractau cyfredol Cyngor Gwynedd yn ogystal â chyfleoedd tendro arfaethedig gall cael ei hysbysebu yn y dyfodol agos. 

Mae’r rhestr yn cynnwys contractau a chytundebau fframwaith sydd a gwerth dros £50,000 am nwyddau a gwasanaethau rydym yn eu pwrcasu yn rheolaidd. Yn ogystal, mae’r rhestr yn cynnwys chyfleoedd un tro a prosiectau penodol. 

Bwriad y rhestr hon yw i  ganiatáu’r farchnad i adnabod beth rydym yn ei brynu a pryd mae contractau ar fin cael eu hadolygu / hysbysebu. 

Drwy rhannu’r wybodaeth hyn, ein nod yw:

  1. Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion gwasanaethau’r Cyngor a’i phrosesau tendro.
  2. Rhoi amser i gyflenwyr a darparwyr ddatblygu mewn termau capasiti a’r safon sydd yn ofynnol.
  3. Edrych i ffurfio consortium (gwneud cais ar y cyd) pan yn addas.
  4. Ddatblygu ac arloesi

 

Gweld rhestr o gontractau (diweddarwyd Medi 2023)

Datganiad atebolrwydd: - Nid yw’r Cyngor yn ymrwymo i brynu'r nwyddau na’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Nid yw ychwaith yn gwarantu ei fod am adnewyddu unrhyw un o’r contractau hyn. Bydd hyn yn benderfyniad i’r adrannau perthnasol o fewn y Cyngor. Nid yw’r rhestr yn cynnwys holl gontractau’r Cyngor. Byddwn yn ymdrechu i ddiweddaru'r rhestr mor gyson ag sydd yn bosib ond ni allwn draddodi i unrhyw amserlen.

I gael rhagor o wybodaeth am y brosesau tendro a'r cymorth sydd ar gael cymorth sydd ar gael ewch i adran "Broses Dendro" a "Cymorth i Dendro" o'r wefan hon.

Os rydych angen rhagor o wybodaeth neu gymorth gallwch gysylltu a’r Gwasanaeth Caffael ar 01766 771000 neu e-bostiwch caffael@gwynedd.llyw.cymru

 

System Prynu Deinameg

Gweld manylion contractau gweithredwyr trafnidiaeth ysgolion cyfredol