Cymorth i dendro
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig y cymorth canlynol i gyflenwyr a darparwyr allu llwyddo mewn prosesau tendro yn y sector gyhoeddus.
Gwasanaeth Caffael Cyngor Gwynedd
Cyfle i gysylltu â’r Ymgynghorwyr Caffael i drafod cyfleoedd tendro sydd ar y gweill, y gefnogaeth sydd ar gael yn ogystal â mynegi barn a phryderon ynghylch cyfleoedd, prosesau a gofynion tendro Cyngor Gwynedd.
Gwasanaeth Cefnogi Busnes (Adran Economi Cyngor Gwynedd) 
Gall Adran Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd roi arweiniad i fusnesau ynglŷn â'r cymorth ariannol sydd ar gael i ddatblygu busnes i allu cystadlu am gyfleoedd tendro boed hynny drwy dyfu capasiti y busnes neu drwy ennill yr achrediadau gofynnol.
 
Busnes Cymru
- Cefnogaeth annibynnol un i un a gweithdai penodol ar sut i fod yn llwyddiannus mewn prosesau tendro.
- Arweiniad ar sut i gwblhau dogfennau tendr.
- Cefnogaeth gyffredinol ar redeg busnes. 
Manylion Cyswllt Busnes Cymru