Rheolaeth Hylendid Bwyd

HACCP

Mae’n ofyn cyfreithiol ar y rhan fwyaf o fusnesau i fabwysiadu a chynnal system rheolaeth diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar egwyddorion HACCP.

Gall systemau diogelwch bwyd amrywio mewn cynlluniad ac mae maint, math a natur y busnes bwyd yn pennu pa system sydd yn fwyaf addas.

Mae rhan fwyaf o fusnesau Gwynedd megis caffis a thai bwyta yn cael budd o ddefnyddio pecyn yr Asiantaeth Safonau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ‘Safer Food Better Business’ (SFBB) ond i gynhyrchwyr ac i arlwywyr mawr mae system HACCP traddodiadol yn fwy addas, mae gwybodaeth bellach ar waelod y dudalen.  

 

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB)

Fe ddatblygwyd y pecyn SFBB gas yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gynorthwyo busnesau bwyd i gydymffurfio gyda’r gofynion i fabwysiadu system rheoli bwyd wedi ei ddogfennu yn dilyn egwyddorion HACCP.

Isod mae pecynnau i’w dilyn a all fod o Gymorth i chi fel busnes.  Mae pob pecyn yn dilyn yr un format gyda dwy ran ‘Dulliau Diogel’ a ‘Dyddiadur’

Mae’r Gweithredwr Busnes Bwyd neu'r person sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd yn y busnes yn cwblhau'r ‘Dulliau Diogel’ sydd yn cynnwys Croeshaolgi, Glanhau, Oeri,  Coginio a Rheolaeth.

I gwblhau’r dyddiadur mae angen nodi unrhyw ddigwyddiad anarferol megis rhywbeth sydd yn mynd o’i le.

 

Gwefannau Defnyddiol

www.rsph.org.uk

https://www.cieh.org/cieh-for-business/training-programmes/ (Saesneg yn unig)

https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/bwyd-mwy-diogel-busnes-gwell-ar-gyfer-arlwywyr

https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-defnyddiwr/alergedd-ac-anoddefiad-bwyd 

https://allergytraining.food.gov.uk/cymraeg/