Sut caiff y bil ei gyfrifo?

Gwerth ardrethol

Mae’r dreth yn ddibynnol ar werth ardrethol eiddo ar ddyddiad penodol, sef 1 Ebrill 2024 ar hyn o bryd. Mae’r gwerth ardrethol yn cael ei seilio ar:

(nodwch fod y dudalennau allanol uchod ar gael yn Saesneg yn unig)

Cyn ailbrisiad  2026 roedd holl eiddo annomestig yn cael ei ailbrisio gan y Swyddfa Brisio bob pum mlynedd er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad yn ystod y cyfnod.

Bwriad y Swyddfa Brisio o 2026 ymlaen yw i ail brisio fesul tair mlynedd.

Hyd at y dyddiad yr ail brisiad nesaf, bydd gwerthoedd ardrethol yn cael eu defnyddio yn ôl y rhestr gyfredol yn seiliedig ar ddyddiad gwerthoedd 1 Ebrill 2024.

 

Ailbrisiad 2026

Mae biliau cyfredol yn seiliedig ar Restr Brisio 2026. Mae'r gwerthoedd ardrethol yn seiliedig a'r werthoedd 1 Ebrill 2024.

Os ydych yn credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir plîs ewch i wefan Llywodraeth y DU:

Gwybodaeth bellach


Lluosyddion cenedlaethol 2026-27

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, ceir tri lluosydd a all fod yn gymwys i eiddo yng Nghymru. Mae’r lluosyddion ar gyfer 2026-27 fel a ganlyn:

  • lluosydd manwerthu o 0.350, sy’n gymwys i siopau manwerthu bach a chanolig sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000
  • lluosydd safonol o 0.502, sy’n gymwys i’r mwyafrif o eiddo eraill
  • lluosydd uwch o 0.515, sy’n gymwys i eiddo sydd â gwerth ardrethol o fwy na £100,000

Mae canllawiau ar gymhwyso’r lluosyddion hyn ar gael ar dudalen we Busnes Cymru

Y lluosydd ar gyfer:

  • 2020/21 yw 53.5 yn y bunt
  • 2021/22 yw 53.5 yn y bunt.  
  • 2022/23 yw 53.5 yn y bunt.  
  • 2024/25 yw 56.2 yn y bunt.  
  • 2025/26 yw 56.8 yn y bunt.  

Felly yn ystod 2020/21 os yw gwerth ardrethol eiddo yn £10,000 rhaid defnyddio’r lluosydd 53.5c i gyfrifo’r bil treth sydd i’w dalu sef £5,350.

 

Gall eithriadau fodoli pan fydd eiddo yn gymwys i dderbyn gostyngiadau neu ryddhad

 

Anghytuno â’r gwerth ardrethol?

Os ydych yn credu bod gwerth ardrethol neu categori defnydd eich eiddo’n anghywir, neu bod yr amgylchiadau wedi newid, am ragor o wybodaeth:

NODWCH: Defnyddir y categori disgrifiad eiddo i benderfynu pa luosydd sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r bil ar gyfer eich eiddo. Ni all yr Awdurdod Lleol newid y disgrifiad hwn na chychwyn apêl ar eich rhan gyda’r Swyddfa Brisio. Felly, mae’n bwysig, os nad ydych yn cytuno â’r disgrifiad, eich bod yn cysylltu â’r Swyddfa Brisio cyn gynted â phosibl.

Os nad ydych yn cytuno â chanlyniad y trafodaethau, mae gennych gyfle i apelio, ac i gael gwrandawiad gan y Tribiwnlys Prisio.

 

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o fanylion ynghylch y drefn ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio