Gostyngiadau, rhyddhad ac eiddo gwag

 

Mae’r rhyddhad hwn wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 75% (nid 100% fel mewn blynyddoedd diweddar) o ostyngiad ar y bil ardrethi annomestig ar gyfer eiddo, a hynny ar gyfer pob eiddo cymwys.

Rhaid gwneud cais drwy lenwi'r ffurflen isod: 

Ffurflen Gais: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023/24

Gweld manylion pellach 


NODWCH
:
Rhaid gwneud cais o fewn y flwyddyn ariannol. Bydd y cynllun yn cau 31 Mawrth 2024.

Mae rhai busnesau yn gymwys am ryddhad llawn (100%) ac eraill i lefelau llai (sy’n gostwng yn raddol hyd at ddim). Bydd swm y rhyddhad yn ddibynnol ar drothwyon gwerthoedd ardrethol hyd at uchafswm gwerth ardrethol o £12,000. Mae'r tabl isod yn dangos esiamplau o lefelau rhyddhad:

Tabl lefelau rhyddhad
Gwerth ardrethol  % y rhyddhad
 0 - 6,000  100
 7,000  83.4
 8,000  66.6
 9,000  50
 10,000  33.3
 11,000  16.6
 12,000  Dim

Mae’r addasiadau yn cael eu hegluro gan Lywodraeth Cymru.

Os nad ydych yn sicr o’r lefel rhyddhad sydd ar gael i chi, i drafod telerau talu, neu am ragor o wybodaeth gyffredinol am ryddhad trethi cysylltwch â ni: 

Cynllun rhyddhad elusennol a sefydliadau nid-er-elw yn weithredol o 1 Ebrill 2018 yn effeithiol o 1 Ebrill 2019.

Rhais i'r Cyngor roi 12 mis o rybudd cyn newid unrhyw ryddhad sydd wedi ei ganiatáu yn barod.

(Plîs nodwch fod categorïau ar gyfer rhyddhad dewisol ar gyfer sefydliadau penodol wedi cael eu dileu - National Trust, RSPCA, RSPB, Cymdeithasau Tai)

Ffurflen gais

Eiddo gwag

Os yw eiddo heb ei feddiannu, does dim angen talu trethi busnes am 3 mis.

Yn achos ffatrïoedd a warysau, does dim angen talu am 6 mis.

Does dim angen talu trethi busnes ar eiddo sydd heb ei feddiannu:

  • os yw’r gwerth ardrethol o dan £2,600
  • os yw’n adeilad rhestredig
  • os yw’n eiddo i fethdalwr
  • os oes gwaharddiad cyfreithiol ar feddiannu’r adeilad.fghgf

Eiddo rhannol wag

Os yw rhan o eiddo heb ei feddiannu, a bod y Cyngor yn credu y bydd yn rhannol wag am gyfnod byr, gall y Cyngor drafod â’r Swyddfa Brisio a chodi trethi am y rhan o’r adeilad sy’n cael ei meddiannu yn unig.

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad trosiannol i fusnesau bach y mae’r ailbrisio hereditamentau annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2017 yn cael effaith andwyol arnynt. Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhadau ardrethi perthnasol ar gael gan yr awdurdod bilio.

Gallai rhyddhad rhag talu ardrethi annomestig fod yn gyfystyr â chymorth gwladwriaethol. Mae’n gyfreithlon pan fo’n cael ei ddarparu yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EU) 1407/2013 ar gymorth de minimis. Mae’r rheoliad de minimis yn caniatáu i fenter gael hyd at €200,000 o gymorth ‘de minimis’ dros gyfnod treigl o dair blynedd. Os ydych yn cael, neu wedi cael, unrhyw gymorth ‘de minimis’ a roddwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol neu’r ddwy flynedd ariannol flaenorol (o unrhyw ffynhonnell), dylech hysbysu’r awdurdod bilio ar unwaith am fanylion y cymorth a gafwyd.