Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn darparu £2.6 biliwn ar draws y DU erbyn Mawrth 2025.
Bydd cyllid cyfalaf a refeniw ar gael ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi:
- Cymuned a Lle
- Cynorthwyo Busnesau Lleol, a
- Phobl a Sgiliau
Bydd pob ardal leol yn derbyn dyraniad ar sail fformiwla cyllido. Dyrannwyd £24.4 miliwn i Wynedd ar gyfer y cyfnod hyd at Mawrth 2025 - mae’n ofynnol i £4.2 miliwn o’r dyraniad gael ei fuddsoddi yng nghodi lefelau rhifedd ymhlith oedolion.
Yng Nghymru, mae’n ofynnol i ardaloedd lleol cydweithio gydag ardaloedd eraill o fewn eu rhanbarth. Mae Gwynedd yn rhan o ranbarth Gogledd Cymru, ynghyd a Sir Fôn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam.
Er mwyn sicrhau’r cyllid, mae pob rhanbarth yn gorfod cyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol i’w gymeradwyo gan Lywodraeth y DU. Bydd y cynllun yn amlinellu sut fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y blaenoriaethau buddsoddi a’i ddosbarthu; allai hyn gynnwys gweithgareddau i’w cyflawni ledled y rhanbarth ac o fewn ardaloedd unigol.
Rhaid cyflwyno’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol i Lywodraeth y DU cyn 01 Awst 2022 a rhagwelir bydd gweithgaredd yn cychwyn yn ystod tymor yr hydref 2022.
Mwy o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Diweddaraf - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Ymhellach I'r sesiynau Gwybodaeth ac Ymgynghori diweddar, bydd gweithdai trafod unigol ar gyfer tri blaenoriaeth buddsoddi’r Gronfa yn cael eu cynnal ar 28 a 29 Mehefin, a 1 Gorffennaf 2022.
Cofrestru i fynychu gweithdy trafod
Close