Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd
Mae'r gronfa bellach ar gau i geisiadau newydd.
Newyddion diweddaraf: Chwefror 2026
Strategaeth newydd i ddatblygu economi Gwynedd
Yn dilyn ymgynghori ac adborth gan ystod o randdeiliaid, mae gwaith ar strategaeth newydd i gefnogi economi Gwynedd bron â dod i ben. (Mae drafft cychwynnol o’r strategaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r Cyngor i’w weld yma).
Themâu a blaenoriaethau arfaethedig y strategaeth yw:
Mentergarwch - mentrau lleol llewyrchus sy'n rhagori
- Uchafu gwerth ein heconomi bresennol
- Gwneud y mwyaf o gyfleoedd newydd
Pobl - gweithlu medrus a chynhwysol
- Sicrhau gweithlu medrus
- Cefnogi ein pobl
Lle - yr amodau gorau i ffynnu
- Y cysylltedd a'r isadeiledd gorau posibl
- Lle gwych i fyw, gweithio a mentro
I gyd-fynd â’r strategaeth bydd cynllun cyflawni yn cael ei lunio i gydlynu’r gwaith yn y maes ac i adnabod pa brosiectau ddylai gael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllid newydd, megis y Gronfa Twf Lleol.
Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw brosiect neu syniadau y dylid eu hystyried ar gyfer eu cynnwys yng nghynllun cyflawni’r strategaeth. Os hoffech drafod syniad, cysylltwch â ni yn gyntaf drwy e-bostio SiwanLisaEvans@gwynedd.llyw.cymru
Ymhellach i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £547 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn dros dair blynedd drwy’r Gronfa Twf Lleol, mae ymgynghoriad y Llywodraeth ar eu cynigion ar gyfer y Gronfa wedi ei gwblhau, ac mae disgwyl y bydd eu hymateb yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd Chwefror.
Rhagwelir y bydd y Gronfa yn weithredol o’r gyntaf o Ebrill 2026 ac y bydd 70% o'r arian yn gyfalaf. Awgrymwyd mai oddeutu £35 miliwn fydd ar gael i ogledd Cymru ym mlwyddyn gyntaf y Gronfa (2026/27) ac mae awdurdodau lleol wedi cychwyn cynllunio ar y sail yma.
Cysylltwch â TwfLleol@gwynedd.llyw.cymru gydag unrhyw ymholiad.
Cefndir
Ers 2022, mae Cyngor Gwynedd gyda’i bartneriaid wedi adnabod a chydweithio â chymunedau, busnesau a sefydliadau ar draws y sir i wneud y mwyaf o fuddsoddiad gwerth £24.4 miliwn yn ystod cyfnod 2022-25, a £7.9 miliwn yn ystod 2025-26 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG (UKSPF).
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi estyniad i’r amserlen ar gyfer cyflawni prosiectau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin 2025/26, gyda’r dyddiad cau newydd wedi’i osod ar 30 Medi 2026. Nid oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer gweithgareddau yn ystod y cyfnod estynedig hwn.
Dyma rai o’r buddion i Wynedd o’r prosiectau hyd yn hyn:
- 1882 o gyfleoedd gwirfoddol wedi eu cefnogi
- 1033 o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol wedi eu cefnogi
- 64 o gyfleusterau wedi eu hadeiladu o’r newydd neu wedi eu gwella
- 335 o gartrefi wedi cael gwelliannau effeithlonrwydd ynni
- 131 o swyddi wedi eu creu o’r newydd
- 216 o swyddi oedd mewn perygl wedi eu diogelu
- 41 tunnell o ostyngiad cyfatebol mewn CO2
Mae’r Ffilm Dathlu Llwyddiant yn dangos rhai o’r 40 o brosiectau gafodd arian yn ystod cyfnod 2022-25 y Gronfa. Gallwch ddarllen hanes y gwahaniaeth mae’r prosiectau wedi ei wneud i bobl a chymunedau Gwynedd hefyd yn y llyfryn Dathlu Llwyddiant Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd
Mae mwy o wybodaeth am fuddion ac effaith y prosiectau i’w cael yn yr astudiaethau achos yma:
Astudiaethau Achos Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd
Roedd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU rhwng 2022 – 2025 a ddarparodd £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.
Nod cyffredinol y Gronfa oedd meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd
Roedd UKSPF yn cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:
- Cymuned a Lle;
- Cefnogi Busnesau Lleol; a,
- Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion (Lluosi)
Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa, ac mae dogfennaeth pellach gan Llywodraeth y DU ar gael yma: Dogfennaeth Ffyniant Bro a Buddsoddiadau Cymunedol.
Cyhoeddodd Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU bod cyfanswm o £900 miliwn arall o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol o Ebrill 2025 tan fis Mawrth 2026. Ar gyfer 2025-26 mae’r blaenoriaethau buddsoddi wedi eu addasu i gyd-fynd â phum thema wedi eu harwain gan Genadaethau genedlaethol Llywodraeth y DU:
- Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol
- Lleoedd sy’n Ffynnu
- Cymorth i Fusnesau
- Cyflogadwyedd
- Sgiliau
Mae gwybodaeth am y diweddariad allweddol i’r Gronfa i’w gael yma:
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26
Cyflawni’r Gronfa yng Ngwynedd 2022-25
Derbyniodd pob rhan o’r DU gyllid o’r Gronfa yn 2022-25, gyda £126.46 miliwn wedi'i ddyrannu i Ranbarth Gogledd Cymru sy’n cynnwys y siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Y dyraniad ar gyfer Gwynedd oedd £24,423,747, gyda £2,942,620 o'r cyfanswm wedi ei warchod i gefnogi prosiect rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).
Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, roedd Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn gweithio gyda'u gilydd i weinyddu’r Gronfa. Fodd bynnag, Cyngor Gwynedd oedd yn penderfynu pa brosiectau dderbyniodd arian yng Ngwynedd gyda chyngor partneriaeth rhanddeiliaid lleol.
Yn ystod Ionawr a Chwefror 2023 roedd cyfle i unrhyw sefydliad yn dymuno cael dros £250,000 o arian SPF gyflwyno cais amlinellol. Yng Ngwynedd derbyniwyd 114 o geisiadau gan gynlluniau yn gofyn am dros £51 miliwn o arian SPF. Ar sail asesiad o’r ceisiadau, a sylwadau Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd, ym mis Mai 2023 dewisodd Cyngor Gwynedd wahodd 47 o gynlluniau i gyflwyno cais manwl am arian.
Yn dilyn derbyn ac asesu’r ceisiadau manwl yn drylwyr, ar 20 Gorffennaf, 2023 cytunodd Cabinet Cyngor Gwynedd gynnig £21.96 miliwn o arian SPF Gwynedd i 39 cynllun.
Gweld Rhaglen y Cabinet
Cyflawni yn ystod y flwyddyn bontio 2025-26
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bod am ymestyn y Gronfa tan 31 Mawrth 2026. Nod yr estyniad yw pontio o’r rhaglen UKSPF sydd eisoes yn bodoli i raglen ariannu newydd yn y dyfodol.
Bydd rhanbarth Gogledd Cymru yn derbyn £42.4 miliwn ychwanegol ar gyfer 2025-26, gyda £7.9 miliwn ohono wedi ei glustnodi i brosiectau yng Ngwynedd.
Er mwyn gallu gweithredu yn gyflym ac yn effeithiol yn ystod y flwyddyn bontio, mae Cyngor Gwynedd wedi comisiynu prosiectau fydd yn datblygu gwasanaethau a gweithgareddau a fu’n llwyddiannus yn ystod y cyfnod blaenorol.
Bydd y Cronfeydd Cefnogi yn parhau i gefnogi prosiectau llai gan fentrau a grwpiau cymunedol yng Ngwynedd gydag arian ychwanegol y Gronfa Ffyniant Gyffredinol (UKSPF).
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd, gyda help partneriaid lleol, ddewis 40 prosiect o bob cwr o Wynedd i dderbyn arian yn uniongyrchol o’r £24.4 miliwn gafodd y sir o Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y DG.
Mae’r gronfa wedi ariannu prosiectau sylweddol ac amrywiol yn uniongyrchol, ar draws nifer o sectorau a chyda partneriaid ar hyd a lled Gwynedd. Gallwch ddarllen hanes llwyddiant y prosiectau, a’r gwahaniaeth mae hyn wedi ei wneud i bobl a chymunedau Gwynedd yn y llyfryn yma
Roedd tri maes blaenoriaeth i’r Gronfa, sef:
Cymunedau a lle - £10.94 miliwn
Cefnogi prosiectau i wella llefydd cyhoeddus, datblygu seilwaith lleol a chryfhau gwasanaethau cymunedol.
Cefnogi busnes lleol - £6.73 miliwn
Buddsoddi mewn busnesau i’w helpu nhw i dyfu, cynyddu cynhyrchiant a chreu swyddi newydd.
Pobl a sgiliau – £5.45 miliwn
Creu cyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau newydd, gan wella eu siawns o gael gwaith.
Nid dim ond prosiectau mawr sydd wedi derbyn cefnogaeth. Yn ogystal â chefnogi prosiectau mawr yn uniongyrchol, sefydlwyd nifer o gronfeydd gan Cyngor Gwynedd i gefnogi prosiectau llai gan fentrau a chymunedau.
Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau: £1.8 miliwn
Cronfa Cefnogi Sector Wirfoddol: £1.5 miliwn
Cronfeydd Cefnogi Busnes: £1.8 miliwn
Cronfeydd Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif: £850k
Gellir darllen manylion pob prosiect o dan tri blaenoriaeth yr SPF isod:
Prosiectau 2025-26 Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd
Mae pum thema wedi eu harwain gan Genadaethau genedlaethol Llywodraeth y DU:
- Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol
- Lleoedd sy’n Ffynnu
- Cymorth i Fusnesau
- Cyflogadwyedd
- Sgiliau
Canol Trefi – Gwynedd Ni
- Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,278,000
- Crynodeb o’r prosiect: Gweithgaredd yn dilyn ymlaen o weithgareddau a ariannwyd gan SPF yn flaenorol gyda phecyn cynhwysfawr o gymorth i wella edrychiad, cyfleusterau a bwrlwm trefi a phentrefi Gwynedd, gan gynnig cefnogaeth i holl gymunedau’r Sir. Pecynnau gwaith o fewn trefi a cymunedau ledled y sir gyda chyllideb unigol i bob Cyngor Tref a Chymuned yng Ngwynedd i ymateb i flaenoriaethau lleol.
Cefnogi Adfywio Cymunedau Gwynedd Ni
- Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £901,000
- Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol sy’n cynnwys gweithgaredd sy’n cael ei ddarparu gan Menter Môn. Bydd y cynllun yn cynnwys cronfa sylweddol i gefnogi prosiectau gan fentrau a grwpiau adfywio cymunedol, ac hefyd yn cynnwys cefnogaeth i ddatblygu a sefydlu grwpiau cymunedol newydd.
- Mwy o wybodaeth: Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau
Cefnogaeth i Fentrau Gwynedd
- Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £740,000
- Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn ymgysylltu gyda mentrau bach a chanolig lleol i hyrwyddo’r cymorth a chyngor sydd ar gael gan y Cyngor ac eraill; yn cynyddu dealltwriaeth y darparwyr cymorth o anghenion mentrau Gwynedd, ac yn darparu cefnogaeth ariannol i fentrau lleol i dyfu a ffynnu.O dan adain y cynllun bydd y Cyngor hefyd yn dod a darparwyr cymorth y sir at ei gilydd i gydlynu a chyfuno eu cynigion i fentrau Gwynedd.
- Mwy o wybodaeth: Grant Gwydnwch Busnes Gwynedd
Cronfa Sector Wirfoddol Gwynedd
- Corff sy’n arwain : Mantell Gwynedd
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £650,000
- Crynodeb o’r prosiect: Cronfa i gefnogi grwpiau a mudiadau gwirfoddol i gyflawni gweithgareddau sy’n cryfhau'r ymdeimlad o falchder lleol a chymunedau iach.
- Mwy o wybodaeth: Mantell Gwynedd
Diwyllesiant
- Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £988,000
- Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol sy’n cynnwys gweithgaredd yn cael ei ddarparu gan Eco-amgueddfa Llŷn (Prifysgol Bangor) a Beics Antur (Antur Waunfawr). Bydd y cynllun yn cefnogi budd a lles cymunedau, yr amgylchedd, a mentrau yng Ngwynedd trwy ddiwylliant, hamdden ac economi ymweld cynaliadwy, ac yn cynnwys cronfa i gefnogi prosiectau yn y meysydd hyn.
Mwy o wybodaeth am y gronfa: Cronfa Diwyllesiant
Mwy o wybodaeth am weithgareddau:
Gwydnwch Cymunedol Gwynedd
- Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £819,654
- Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol sy’n cynnwys gweithgaredd sy’n cael ei ddarparu gan sawl mudiad trydydd sector - Mantell Gwynedd, Cyngor ar Bopeth, Ability Net, Adra Cyf, Partneriaeth Trafnidiaeth Gymunedol Gwynedd, Age Cymru a 14 Hwb Cefnogi Pobl. Bydd pecyn o gefnogaeth yn cael ei ddarparu ar draws cymunedau Gwynedd i roi cymorth i bobl gael mynediad at wasanaethau lleol fydd yn eu galluogi i fyw yn hirach, iachach a hapusach yn eu cymunedau. Bydd yn cynnwys gweithgareddau i atal eithrio ariannol a digidol, cymorth i wirfoddoli, lleihau unigrwydd a brwydro tlodi.
Mwy o wybodaeth:
Pecyn Cefnogi Pobl i Gyflawni eu Potensial yn y Byd Gwaith
- Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,068,122
- Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol yn y maes cyflogadwyedd sy’n cynnwys gweithgaredd sy’n cael ei ddarparu gan Adra (Cyf) a GISDA (Cyf). Bydd y pecyn cefnogi yn cynnwys cymorth i atal plant ysgol rhag gadael addysg; help arbenigol i grwpiau penodol, yn cynnwys pobl ifanc bregus ac unigolion gydag anableddau dysgu, i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag sicrhau gwaith neu ddychwelyd i addysg; a chymorth i oedolion fagu’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i ddychwelyd i waith, neu i sicrhau swydd well.
Mwy o wybodaeth:
Camau Cefnogol
- Sefydliad sy’n arwain : Grŵp Llandrillo-Menai
- Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Conwy
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £368,000
- Crynodeb o’r prosiect: Ystod o gefnogaeth i sicrhau fod myfyrwyr bregus 16-25 oed yn parhau gyda’u hastudiaethau, ac yn llwyddo i gyrraedd eu potensial. Bydd y cynllun yn rhoi cymorth i bobl ifanc feithrin sgiliau sy’n hanfodol i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, cyflogaeth neu brentisiaethau gwaith.
Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
- Corff sy’n arwain : Uchelgais Gogledd Cymru
- Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Conwy / Sir Ddinbych / Sir y Fflint
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £68,000
- Crynodeb o’r prosiect: Cynllun sy’n cefnogi busnesau a chymunedau gan ddilyn blaenoriaethau’r Cynllun Twf. Bydd yn cynnwys gweithgaredd i hyrwyddo’r cyfleon gwaith sydd ar gael, cymorth i fusnesau ddatblygu cynlluniau cysylltedd a chynlluniau datblygu egni cynaliadwy, a hyfforddiant i fusnesau i fanteisio ar gyfleoedd cyllido.
- Mwy o wybodaeth: Uchelgais Gogledd Cymru
Cymorth Arbenigol i Sefydlu Mentrau Cymdeithasol a Mentrau ym Mherchnogaeth eu Gweithwyr
- Corff sy’n arwain : Cwmpas
- Cynllun ar draws siroedd Gwynedd ac Ynys Môn
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £135,000
- Crynodeb o’r prosiect: Mae’r cynllun yn darparu cefnogaeth busnes arbenigol i fentrau cymdeithasol newydd er mwyn sefydlu prosesau cadarn a chydymffurfio a rheolau perthnasol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor arbenigol i fentrau aeddfed sy’n dymuno ymchwilio a gweithio tuag at berchnogaeth gan eu gweithwyr.
- Mwy o wybodaeth: Busnes Cymdeithasol Cymru - twf
Cynllun Talebau Sgiliau Ac Arloesedd (SIV) a Môr Ni Gwynedd
- Corff sy’n arwain : Prifysgol Bangor
- Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Sir y Fflint
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £240,000
- Crynodeb o’r prosiect: Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth i fusnesau Gwynedd ddatblygu gyda chymorth arbenigaeth o’r Brifysgol gyda gweithgaredd mewn dwy ffrwd gwaith.Bydd y ffrwd waith gyntaf yn gweithredu ar draws y tair sir yn cynnig talebau i fusnesau lleol sy’n eu galluogi i gael mynediad at arbenigedd, cyfleusterau, hyfforddiant a thalent adrannau perthnasol yn y Brifysgol. Bydd yr ail ffrwd waith yn gweithredu yng Ngwynedd yn unig gan gefnogi'r sector pysgodfeydd a’r busnesau bwyd môr cysylltiedig er mwyn gwella bywoliaeth a swyddi cymunedau arfordirol.
Mwy o wybodaeth:
Mentergarwch Gwynedd ac Ynys Môn
- Corff sy’n arwain : Menter Môn
- Cynllun ar draws siroedd Gwynedd ac Ynys Môn
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £210,000
- Crynodeb o’r prosiect: Bydd yr Hwb Menter yn cynnig gwasanaethau i gychwyn busnesau newydd, a chefnogi busnesau i ddatblygu a thyfu drwy ddarparu cyngor un-i-un, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio. Mae hefyd yn cynnwys cynnal darpariaeth casglu gwybodaeth defnyddwyr stryd fawr prif drefi Gwynedd.
- Mwy o wybodaeth: Hwb Menter
Iach Ac Actif
- Corff sy’n arwain : Gogledd Cymru Actif
- Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Sir Ddinbych / Sir y Fflint
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £70,000
- Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a lles drwy gydlynu cynlluniau llesiant cymunedol sy’n cael eu harwain gan bobl leol yn y cymunedau sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i fyw’n iach.
- Mwy o wybodaeth: Gogledd Cymru Actif
Menter Sgiliau Gwyrdd Cyflogwyr Gogledd Cymru (EGNI)
- Corff sy’n arwain : Grŵp Llandrillo-Menai
- Cynllun ar draws siroedd Gwynedd ac Ynys Môn
- Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £329,872
- Crynodeb o’r prosiect: Cefnogaeth i fusnesau a’u gweithwyr i sicrhau’r sgiliau sydd eu hangen i gryfhau a datblygu’r busnes. Bydd pwyslais ar gefnogi sgiliau ‘gwyrdd’ fydd yn helpu busnesau a’u gweithwyr ar y daith i gyrraedd targedau sero net cenedlaethol. Bydd ffrwd gwaith penodol i helpu’r sector adeiladu leol gymhwyso i osod offer ynni effeithlon fydd yn manteisio ar adnoddau Tŷ Gwyrddfai, Penygroes.
Mwy o wybodaeth:
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: FfyniantBroDU@gwynedd.llyw.cymru
I ddysgu mwy am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru ymwelwch â: Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru
