Grant Gwella Eiddo Canol Trefi
Mae Grant Gwella Eiddo Canol Trefi, a gefnogir drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, wedi cael ei sefydlu i gefnogi busnesau mewn canol trefi a dinasoedd i ddatblygu ac uwchraddio eu heiddo. Rydym yn cydnabod bod busnesau canol trefi wedi, ac yn parhau i fod, yn wynebu cyfnod heriol yn economaidd.
Mae'r grant ar gael i fusnesau annibynnol, bach a chanolig eu maint sy'n gweithredu neu yn cynllunio i fod yn gweithredu mewn Canol Trefi a Dinasoedd yng Ngwynedd.
Prif bwrpas y gronfa yw ceisio gwneud gwahaniaeth diriaethol i ymddangosiad ein canol trefi a dinasoedd gan eu gwneud yn lleoedd mwy deniadol i ymweld â nhw a gweithio; annog pobl i dreulio eu hamser a'u harian yno. Bydd y Cyngor, felly, yn cefnogi gwelliannau i adeiladau busnes yn y brif ganolfan fasnachol (yn gyffredinol y stryd fawr - neu debyg - a lleoliadau yn union gyfagos)
Mae dwy opsiwn i’r gefnogaeth sydd ar gael:
- Grant Datblygol - Cefnogaeth wrth i fusnes gychwyn ar y gwaith o ddatblygu cynllun adfywio mewn eiddo masnachol; neu
- Grant Gweithredu- Cefnogaeth ar gyfer gwelliannau ffisegol i eiddo masnachol.
Mae’r grant hwn gael i fusnesau a mentrau annibynnol, bach a chanolig eu maint yn y lleoliadau isod yng Ngwynedd. Bydd angen i fusnesau fod wedi'u lleoli o fewn y prif ganolfannau masnachol yn y lleoliadau hyn.
- Bangor
- Caernarfon
- Porthmadog
- Pwllheli
- Blaenau Ffestiniog
- Dolgellau
- Tywyn
- Aberdyfi
- Y Bala
- Abermaw
- Harlech
- Penrhyndeudraeth
- Cricieth
- Nefyn
- Abersoch
- Penygroes
- Llanberis
- Bethesda
Bydd busnesau sydd wedi cofrestru am ardrethi busnes hefo Gyngor Gwynedd yn gymwys ynghyd â busnesau sy'n meddu ar neu wedi gwneud cais am y caniatâdau statudol angenrheidiol.
Ar gyfer ymholiadau cynllunio yng Ngwynedd (y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri), cysylltwch a cynllunio@gwynedd.llyw.cymru
Ar gyfer ymholiadau cynllunio o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, cysylltwch a cynllunio@eryri.llyw.cymru
* cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw ganiatâd
Yn ogystal, bydd angen i'r busnes:
- Gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus;
- Fod o dan lefel trothwy Cymorth De Minimis gan yr UE neu gymhorthdal 'Symiau bach o gymorth ariannol' (fel y'i diffinnir yn Erthygl 364 paragraff 4 o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE) yn ystod y 3 blynedd ariannol flaenorol (Manylion yn y Nodyn Canllaw)
Nid yw cwmnïau cadwyn cenedlaethol na rhyngwladol yn gymwys am gefnogaeth.
Grant Datblygol
Yn dibynnu ar eich cais, yr isafswm y gellir ei ddyfarnu yw £2,000 a'r uchafswm yw £10,000. Gall y cyfraniad fod hyd at 50% o werth y gwaith.
Grant Gweithredu
Yn dibynnu ar eich cais, yr isafswm y gellir ei ddyfarnu yw £2,500 a'r uchafswm yw £25,000. Gall y cyfraniad fod hyd at 70% o werth y gwaith
Bydd rhaid bod wedi hawlio’r arian cyn 1 Mawrth 2022.
Mae'r grant yn awr ar agor am geisiadau ac mae'n seiliedig ar sail cyntaf i’r felin.
Cyn ymgeisio am yr arian bydd angen sicrhau fod y canlynol gennych i’w cyflwyno gyda’r cais:
- Lluniau o’r eiddo;
- Dyfynbrisiau am y gwaith.
Dylid nodi nad yw’r system electroneg yn arbed gwybodaeth yn awtomatig dros gyfnod o amser. Cynghorir felly i chi gael yr holl wybodaeth i law wrth ymgeisio.
Grant Datblygol
Ariannu gwaith datblygol fydd yn rhoi cyfle i fusnesau dargedu grantiau cyfalaf i wireddu eu cynlluniau. Mae’n rhaid i’r adeilad fod wedi ei leoli o fewn ffin masnachol y dref. Mae’r canlynol yn esiamplau o’r hyn fyddai’n gymwys:
- Ffioedd penseiri;
- Ffioedd syrfewr;
- Arolygon strwythurol / cyflwr;
- Asesiad opsiynau;
Dim ond gwaith datblygol sydd yn gysylltiedig gyda’r adeilad sydd yn gymwys. Ni fydd modd ariannu dogfennau sydd yn gysylltiedig a’r busnes unigol megis Cynlluniau Busnes
Grant Gweithredu
Ariannu gwaith cyfalaf allanol a fydd yn uwchraddio eiddo masnachol. Mae’n rhaid i’r adeilad fod wedi ei leoli o fewn ffin masnachol y dref. Mae’r canlynol yn esiamplau o’r hyn fyddai’n gymwys:
- Gwaith uwchraddio i’r adeilad;
- Ffenestri a drysau newydd;
- Arwyddion newydd
Ni fydd llafur unigolion ar eu heiddo yn cael ei ystyried yn gymwys.
Os yw'r eiddo dan sylw yn destun cytundeb rhent/prydles yna dylai'r tenant fod â phrydles gyda 7 mlynedd neu fwy yn weddill ar ddyddiad y cais a dylai fod wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig ei landlord i'r gwaith arfaethedig.
Bydd rhaid i'r holl waith ddiwallu gofynion iechyd a diogelwch a bydd y busnes yn gyfrifol am gael yswiriant a chynnal a chadw unrhyw waith yn gywir a diogel.
Gwneud cais
Pwysig!
Mae’r Gronfa hon bellach wedi ei hymrwymo yn llawn ar sail y cyntaf i’r felin gyda cheisiadau cyflawn a chymwys. Rydym yn ceisio sicrhau mwy o gyllideb ond NID oes sicrwydd o hyn.
Close
Mwy o wybodaeth
Grant Gwella Eiddo Canol Trefi - canllaw i ymgeiswyr
Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: grantiaubusnes@gwynedd.llyw.cymru