Mae stori Llechi Cymru yn un oesol. Mae i’r tirwedd le arbennig yng nghalonnau trigolion.

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn adrodd stori esblygiad bro dawel, amaethyddol i fod yn ardal lle nad oedd dianc rhag y diwydiant llechi. Dyma lle ymddangosodd chwareli, trefi a phentrefi, a chafodd ffyrdd a rheilffyrdd eu cerfio trwy Eryri i borthladdoedd y glannau.

Yn 2021, fe ddynodwyd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO (yn agor mewn tab newydd), un o bedwar dynodiad cyffelyb yng Nghymru, ac un o 32 safle yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei rhedeg gan bartneriaeth, sydd yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd.

Cliciwch ar y penawdau isod am fwy o wybodaeth, neu ewch i wefan Llechi Cymru (yn agor mewn tab newydd).