Llewyrch o'r Llechi, Cronfa Ffyniant Bro

Mae’r cynllun Llewyrch o’r Llechi: Ffyniant i’n dyfodol o’n gorffennol diwydiannol yn rhan o ymdrechion Cyngor Gwynedd i wireddu gweledigaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sef:

Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.

Hwb Dinorwig:

  • Ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi ar safle’r Gilfach Ddu er mwyn creu gofod arddangos, addysg a prif hwb dehongli y Safle Treftadaeth y Byd, yn ogystal a gwaith cadwraeth i’r adeilad hanesyddol.
  • Gwelliannau i Barc Padarn yn cynnwys uwchraddio a chreu llwybrau, ail bwrpasu adeiladau hanesyddol, gwella isadeiledd ymwelwyr a gwaith cadwraeth.

Hwb Ogwen

  • Buddsoddiad yn Neuadd Ogwen i uwchraddio’r system sain a ffabrig yr adeilad i alluogi digwyddiadau gael eu cynnal yno.
  • Ailddatblygu adeilad Yr Hen Bost ar y stryd fawr i greu unedau busnes, canolfan dreftadaeth bwrpasol ac adnodd cymunedol.
  • Creu llwybr beicio a cherdded i gysylltu Bethesda a Chwarel Penrhyn, yn cynnwys gwaith uwchraddio pontydd, llwybrau a dehongli.

Hwb Ffestiniog

  • Uwchraddio Aelwyd yr Urdd yn ganolfan cymunedol gyda darpariaeth dehongli a threftadaeth yno.
  • Ail bwrpasu dwy siop wag ar y stryd fawr yn unedau busnes, gofod preswyl a gofod creadigol i’r gymuned.
  • Creu llwybr beicio a cherdded i gysylltu Blaenau Ffestiniog a Chwarel Llechwedd.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gwaith cadwraeth i strwythurau hanesyddol y tirwedd llechi yn y dair ardal, yn ogystal a buddsoddiadau yn y prif ganolfannau trwy wella dehongli, arwyddo a dodrefn stryd, a chynlluniau celf cyhoeddus.

Ceir mwy o wybodaeth am Llewyrch o’r Llechi ym mhrosbectws y cynllun:

Mwy o wybodaeth a chysylltu â ni

neu cysylltwch drwy'r cyfryngau cymdeithasol:

Mae mwy wybodaeth am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ar gael ar wefan Llechi Cymru.