Dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru

Cyngor Gwynedd sydd wedi arwain ar yr ymgais i sicrhau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, trwy weithio gydag amrediad o bartneriaid o’r sector gyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.

Gweledigaeth y dynodiad yw:

Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.

Mae’r dynodiad yn cynnwys chwech ardal allweddol sydd wedi cael eu dewis i arddangos gwerth eithriadol byd-eang (outstanding universal value):

  • Chwarel lechi Penrhyn, tref Bethesda, a Dyffryn Ogwen i Borth Penrhyn
  • Tirwedd Mynyddig Chwarel Lechi Dinorwig
  • Tirwedd Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle
  • Chwareli Llechi Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor, Rheilffyrdd a Melin
  • Ffestiniog, ei ceudyllau a chwareli llechi ‘prifddinas llechi’ a’r rheilffordd i Borthmadog
  • Chwarel Lechi Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn

Y dirwedd yw’r pedwerydd o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, gan ddilyn Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch llechi@gwynedd.llyw.cymru neu ymweld â gwefan llechi.cymru

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol: