Llewyrch o'r Llechi
Mae’r cynllun Llewyrch o’r Llechi: Ffyniant i’n dyfodol o’n gorffennol diwydiannol yn rhan o ymdrechion Cyngor Gwynedd i wireddu gweledigaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sef:
Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.
Mae’r cynllun Llewyrch o’r Llechi yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd ar ran ystod o bartneriaid, ac yn gynllun sydd wedi derbyn nawdd gan Llywodraeth Prydain a phartneriaid eraill. Mae cyfanswm y cynllun yn £32m gyda £18.8m yn dod o Llywodraeth y DU. Mae’r cynllun yn cynnwys:
Hwb Dinorwig:
- Ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi ar safle’r Gilfach Ddu er mwyn creu gofod arddangos, addysg a prif hwb dehongli y Safle Treftadaeth y Byd, yn ogystal â gwaith cadwraeth i’r adeilad hanesyddol.
- Gwelliannau i Barc Padarn yn cynnwys uwchraddio a chreu llwybrau, ail bwrpasu adeiladau hanesyddol, gwella isadeiledd ymwelwyr a gwaith cadwraeth.
Hwb Ogwen
- Buddsoddiad yn Neuadd Ogwen i uwchraddio’r system sain a ffabrig yr adeilad i alluogi digwyddiadau gael eu cynnal yno.
- Ailddatblygu adeilad Yr Hen Bost ar y stryd fawr i greu unedau busnes, canolfan dreftadaeth bwrpasol ac adnodd cymunedol.
- Creu llwybr beicio a cherdded i gysylltu Bethesda a Chwarel Penrhyn, yn cynnwys gwaith uwchraddio pontydd, llwybrau a dehongli.
Hwb Ffestiniog
- Uwchraddio Aelwyd yr Urdd yn ganolfan cymunedol gyda darpariaeth dehongli a threftadaeth yno.
- Ail bwrpasu dwy siop wag ar y stryd fawr yn unedau busnes, gofod preswyl a gofod creadigol i’r gymuned.
- Creu llwybr beicio a cherdded i gysylltu Blaenau Ffestiniog a Chwarel Llechwedd.
Gwelliannau Canol Trefi
Mae gwelliannau wedi eu cynllunio ar gyfer ein prif gymunedau llechi er mwyn ceisio uchafu ymwybyddiaeth o’r statws Safle Treftadaeth y Byd ymysg trigolion ac ymwelwyr. Gwelir y gwelliannau isod ym Mhorthmadog, Penygroes, Tywyn, Bethesda, Blaenau Ffestiniog a Llanberis,
- Cyd-greu darnau o waith celf cyhoeddus gyda’r gymuned leol er mwyn adrodd hanes eu treftadaeth llechi;
- Uwchraddio meinciau, biniau a byrddau gwybodaeth;
- Cynllun arwyddion cyfeirio cerddwyr;
- Gosod ‘inserts’ llechi yn y troedffyrdd sydd yn cyfleu diwylliant lleol, e.e cynnwys barddoniaeth, tafodiaith neu ddywediadau lleol;
- Ail-wynebu troedffyrdd a ffyrdd o fewn y cymunedau;
- Cynlluniau gwella adnoddau cymunedol megis uwchraddio Golff Giamocs Porthmadog, creu ardal chwaraeon aml-bwrpas ym Mlaenau Ffestiniog a campfa awyr agored yn Llanberis
Cynlluniau Cadwraeth
Mae cynlluniau cadwraeth yn rhan o’r pecyn gwaith, yn cynnwys gwaith sylweddol i warchod strwythur Ysbyty Chwarel Penrhyn ym Methesda a gwaith cofnodi ym Melin Diffwys a Chwmorthin ym Mlaenau Ffestiniog.
Ceir mwy o wybodaeth am Llewyrch o’r Llechi ym mhrosbectws y cynllun:
Prosbectws Llewyrch o'r Llechi
Gweld cais gwreiddiol Llewyrch o'r Llechi
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch llechi@gwynedd.llyw.cymru neu ewch i wefan Llechi Cymru.
Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol:
Instagram
Facebook
YouTube
Bluesky
Mwy o wybodaeth a chysylltu â ni
neu cysylltwch drwy'r cyfryngau cymdeithasol:
Mae mwy wybodaeth am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ar gael ar wefan Llechi Cymru.