Os yw ci wedi ymosod ar rywun neu ar anifail arall, mae’n fater i’r heddlu a dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Ffoniwch 101 (neu 999 mewn argyfwng yn unig).
Os ydych yn poeni fod ci'n beryglus rhowch wybod i ni. Ceisiwch ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib am y ci - brid, lliw, lleoliad ac ati:
Rhoi gwybod am gi peryglus (yn agor mewn tab newydd)- Ffôn: 01766 771000
Perchnogion cŵn peryglus
Mae mathau penodol o gŵn wedi’u gwahardd o’r Deyrnas Unedig. Mae'n drosedd bod yn berchen ar gi sydd wedi ei wahardd ac heb ei gofrestru.
- Cŵn sydd wedi'u gwahardd (GOV.UK) (yn agor mewn tab newydd) - gwybodaeth ar gael yn Saesneg yn unig
Cofiwch, rhaid i bob ci o bob math yn cael microsglodyn adnabod. Os mewn man cyhoeddus, mae’n bwysig fod cŵn dan reolaeth perchennog, yn gwisgo coler efo tag, ac fod y perchennog yn glanhau llanast y ci ar eu hôl.
Cŵn XL Bully
Nid oes gennych hawl i:
- werthu ci XL Bully,
- adael i gi XL Bully grwydro,
- rhoi ci XL Bully i rhywun arall,
- magu cŵn bach XL Bully,
- bod mewn lle cyhoeddus gyda chi XL Bully sydd heb dennyn na phenwar (muzzle).
Os oes gennych gi XL Bully yn barod, bydd rhaid cofrestru’r ci a chael Tystysgrif Eithrio.
Er mwyn cael tystysgrif, mae’n ofynnol i’r perchennog sicrhau:
- yswiriant priodol i’r ci
- fod y ci wedi ei sbaddu (niwtro)
- talu ffi am y dystysgrif.
Gweld gwybodaeth am sut i gofrestru ci (yn agor mewn tab newydd)