Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn yn ymwneud â:
- pheidio â chlirio neu godi baw ci
- gadael i gi fynd ar dir lle mae cŵn wedi eu gwahardd
- peidio rhoi, a chadw ci ar dennyn pan ofynnir i’r person wneud hynny gan swyddog awdurdodedig
Gweld Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Cyngor Gwynedd: Rheoli Cŵn (yn agor mewn tab newydd)
Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Cyngor Gwynedd (Rheoli cŵn) 2024 (yn agor mewn tab newydd)
Bydd peidio â chydymffurfio gyda’r gorchymyn yn arwain at rybudd cosb penodedig o £100 (wedi ei ostwng i £75, os telir o fewn 10 diwrnod gwaith) neu erlyniad.
Beth mae hyn yn golygu i berchnogion cŵn?
Bydd yn drosedd i beidio â glanhau ar ôl eich ci ar holl diroedd cyhoeddus yng Ngwynedd.
Bydd cŵn yn cael eu gwahardd o:
- dir o fewn ffiniau ysgolion, sefydliadau addysg uwch a phellach
- caeau chwarae plant
- tir hamdden
Mapiau o'r ardaloedd dynodedig ar draethau
- Aberdaron (yn agor mewn tab newydd)
- Aberdyfi (yn agor mewn tab newydd)
- Abermaw (yn agor mewn tab newydd)
- Abersoch (yn agor mewn tab newydd)
- Bennar (yn agor mewn tab newydd)
- Cricieth - Promenâd (yn agor mewn tab newydd)
- Dinas Dinlle (yn agor mewn tab newydd)
- Fairbourne (yn agor mewn tab newydd)
- Glan don (yn agor mewn tab newydd)
- Harlech (yn agor mewn tab newydd)
- Llandanwg (yn agor mewn tab newydd)
- Morfa Bychan (yn agor mewn tab newydd)
- Morfa Nefyn (yn agor mewn tab newydd)
- Nefyn (yn agor mewn tab newydd)
- Porth Oer (yn agor mewn tab newydd)
- Pwllheli (yn agor mewn tab newydd)
- Towyn (yn agor mewn tab newydd)
- Tywyn (yn agor mewn tab newydd)
Bydd rhaid rhoi cŵn ar dennyn yn dilyn cyfarwyddyd gan swyddog awdurdodedig, petai’r swyddog o’r farn fod y ci yn achosi niwsans neu bryder mewn mannau cyhoeddus agored.
Eithrir cŵn cymorth ar gyfer pobl gydag anableddau o’r gorchymyn.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth am y Gorchmynion Rheoli Cŵn cysylltwch â ni:
- 01766 771000
- rheolicwn@gwynedd.llyw.cymru