Cŵn strae
Os dewch o hyd i gi strae cysylltwch â ni:
Adrodd ci strae ar-lein (yn agor mewn tab newydd)- Ffôn: 01766 771000
Bydd un o’n wardeiniaid yn casglu’r ci. Os na fydd y swyddog yn gallu adnabod y perchennog a chysylltu ag ef, bydd y ci'n mynd i genel.
Cŵn coll
Os yw eich ci ar goll:
- cysylltwch â ni. Rydym yn cadw cofnod o gŵn coll a gallwn roi gwybod i chi os bydd un o’r Wardeiniaid Cŵn yn dod o hyd iddo.
- Ffôn: 01766 771000
- cysylltwch â'r filfeddyg leol rhag ofn fod rhywun wedi dod o hyd i'r ci
- os oes microsglodyn ar eich ci, rhowch wybod i’r cwmni sydd wedi ei gofrestru
- edrychwch ar wefannau cŵn fel www.doglost.co.uk (yn agor mewn tab newydd)
- os ydych yn credu bod rhywun wedi dwyn eich ci, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 0300 330 0101
- os yw’r ci wedi ei yswirio, rhowch wybod i’r cwmni yswiriant.