Trethi annomestig yw’r trethi sy’n cael eu codi ar y rhan fwyaf o adeiladau masnachol ac adeiladau di-breswyl e.e. siopau, swyddfeydd, tafarnau, ffatrïoedd ac ati.

Y Cyngor sy’n gyfrifol am gasglu’r arian. Caiff wedyn ei roi mewn pot cenedlaethol a’i ailddosbarthu i’r Cynghorau ar sail poblogaeth, i’w wario ar wasanaethau, a chomisiynwyr heddlu a throseddu.

Os ydych yn defnyddio adeilad (neu ran o adeilad) ar gyfer busnes, mae’n debyg y bydd gofyn i chi dalu trethi annomestig. Pwy bynnag sy’n meddiannu’r adeilad sy’n talu fel arfer yn hytrach na’r perchennog.

Sut caiff y bil ei gyfrifo?

Sut mae talu eich bil?

  • Ffurflen Debyd Uniongyrchol (yn agor mewn tab newydd)
    Debyd Uniongyrchol ydi'r ffordd hawsaf o dalu. Gallwch ddewis talu ar y 5ed, 15ed, 21ain neu'r 28ain o'r mis.
  • Talu ar-lein (yn agor mewn tab newydd)
  • Talu dros y ffôn: 01766 771000 (rhwng 08:30 a 17:00 Llun i Gwener)
  • Trwy'r post: Anfonwch siec neu archeb bost i: Cyngor Gwynedd, Uned Incwm, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH.
    Rhaid croesi pob siec, archeb bost gyda'r geiriau "Cyfrif Taledig" a'i gwneud yn daladwy i "Cyngor Gwynedd". Bydd angen nodi eich cyfeirnod a'ch enw/cyfeiriad ar gefn y siec. Ni fydd derbynneb yn cael ei hanfon ar gyfer taliadau siec.

Trafferth talu

Os ydych yn ei chael yn anodd talu’r bil, cysylltwch â ni’n syth:


Gostyngiadau, rhyddhad ac eiddo gwag

Gostyngiadau, rhyddhad ac eiddo gwag