Yn 2026-27, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ardrethi annomestig ychwanegol, wedi’i dargedu, ar gyfer tafarnau, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Bydd busnesau yn gymwys i gael 15% oddi ar eu hatebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol. Bydd swm y rhyddhad yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru.
Mae’r canllawiau i’w gweld ar dudalen we Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Rhaid gwneud cais drwy lenwi'r ffurflen isod:
Ffurflen Gais: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2026/27 (yn agor mewn tab newydd)
NODWCH:
Rhaid gwneud cais o fewn y flwyddyn ariannol. Bydd y cynllun yn cau 31 Mawrth 2027.
Mae rhai busnesau yn gymwys am ryddhad llawn (100%) ac eraill i lefelau llai (sy’n gostwng yn raddol hyd at ddim). Bydd swm y rhyddhad yn ddibynnol ar drothwyon gwerthoedd ardrethol hyd at uchafswm gwerth ardrethol o £12,000. Mae'r tabl isod yn dangos esiamplau o lefelau rhyddhad:
| Gwerth ardrethol | % y rhyddhad |
|---|---|
| 0 - 6,000 | 100 |
| 7,000 | 83.4 |
| 8,000 | 66.6 |
| 9,000 | 50 |
| 10,000 | 33.3 |
| 11,000 | 16.6 |
| 12,000 | Dim |
Mae’r addasiadau yn cael eu hegluro gan Lywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Os nad ydych yn sicr o’r lefel rhyddhad sydd ar gael i chi, i drafod telerau talu, neu am ragor o wybodaeth gyffredinol am ryddhad trethi cysylltwch â ni:
- Ffôn: (01286) 682772 neu (01286) 682709
- E-bost: TrethiAnnomestig@gwynedd.llyw.cymru
- Cyfeiriad: Gwasanaeth Trethi, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Cynllun rhyddhad elusennol a sefydliadau nid-er-elw yn weithredol o 1 Ebrill 2018 yn effeithiol o 1 Ebrill 2019.
Rhaid i'r Cyngor roi 12 mis o rybudd cyn newid unrhyw ryddhad sydd wedi ei ganiatáu yn barod.
(Plîs nodwch fod categorïau ar gyfer rhyddhad dewisol ar gyfer sefydliadau penodol wedi cael eu dileu - National Trust, RSPCA, RSPB, Cymdeithasau Tai)
Eiddo gwag
Os yw eiddo heb ei feddiannu, does dim angen talu trethi busnes am 3 mis.
Yn achos ffatrïoedd a warysau, does dim angen talu am 6 mis.
Does dim angen talu trethi busnes ar eiddo sydd heb ei feddiannu:
- os yw’r gwerth ardrethol o dan £2,600
- os yw’n adeilad rhestredig
- os yw’n eiddo i fethdalwr
- os oes gwaharddiad cyfreithiol ar feddiannu’r adeilad
Eiddo rhannol wag
Os yw rhan o eiddo heb ei feddiannu, a bod y Cyngor yn credu y bydd yn rhannol wag am gyfnod byr, gall y Cyngor drafod â’r Swyddfa Brisio a chodi trethi am y rhan o’r adeilad sy’n cael ei meddiannu yn unig.
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad trosiannol i fusnesau bach y mae’r ailbrisio hereditamentau annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2026.
Rhaid i’r cynnydd yn y swm sydd yw dalu fod yn fwy na £300.
Rhaid i’r trethdalwr fod yn gyfrifol am y dreth cyn 1 Ebrill 2026, ni fydd trethdalwr newydd ar gyfer yr eiddo yn gymwys i dderbyn y rhyddhad.
Ni all yr eiddo fod yn derbyn ail asesiad dros dro dan rhan 44A o’r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Fydd trethdalwr yn talu canran o’r cynnydd fel a ganlyn:-
- Blwyddyn 1 – 33%
- Blwyddyn 2 – 66%
- Blwyddyn 3 – dim rhyddhad trosiannol
Ceir rhagor o fanylion ar wefan Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Gallai rhyddhad rhag talu ardrethi annomestig fod yn gyfystyr â chymorth gwladwriaethol. Mae’n gyfreithlon pan fo’n cael ei ddarparu yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EU) 1407/2013 ar gymorth de minimis. Mae’r rheoliad de minimis yn caniatáu i fenter gael hyd at €200,000 o gymorth ‘de minimis’ dros gyfnod treigl o dair blynedd. Os ydych yn cael, neu wedi cael, unrhyw gymorth ‘de minimis’ a roddwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol neu’r ddwy flynedd ariannol flaenorol (o unrhyw ffynhonnell), dylech hysbysu’r awdurdod bilio ar unwaith am fanylion y cymorth a gafwyd.
Mae'n bosib gwneud cais am ardrethi busnes ar gyfer eiddo hunanddarpar yng Nghymru.