Cam 1 – Ffurflen Datgan Diddordeb
Y cam cyntaf yw cyflwyno Ffurflen Datgan Diddordeb er mwyn rhoi trosolwg byr o’ch busnes a’r prosiect arfaethedig, boed yn fusnes newydd neu’n fusnes sydd eisoes wedi’i sefydlu.
Defnyddir y wybodaeth i asesu eich cymhwysedd cychwynnol ac i sgorio’ch cais yn erbyn meini prawf penodol. Ar sail hyn, bydd ceisiadau’n cael eu blaenoriaethu a dim ond yr ymgeiswyr cryfaf fydd yn cael eu gwahodd i symud ymlaen i fod yn rhan o' rhaglen.
Cam 2 – Cymorth Busnes
Bydd y busnesau sy’n llwyddiannus yng ngham 1 yn cael eu gwahodd i symud ymlaen i gam 2 y rhaglen.
Busnes newydd:
Yn ystod y cam hwn, bydd busnesau newydd yn derbyn cymorth wedi’i deilwra i ddatblygu a phrofi eu syniad, cryfhau eu model busnes, a’u paratoi i gyflwyno cais llawn o ansawdd uchel ac i lansio neu dyfu’n llwyddiannus.
Busnesau wedi’i sefydlu:
Yn ystod y cam hwn, bydd busnesau wedi’i sefydlu yn derbyn cymorth wedi’i deilwra i fireinio a chryfhau eu cynlluniau, datblygu cyfleoedd twf, a’u paratoi i gyflwyno cais llawn o ansawdd uchel.
Cais am grant
Ar ôl cwblhau Cam 2, bydd busnesau yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais grant llawn. Bydd cymorth gan gynghorydd busnes ar gael drwy gydol y broses ymgeisio i helpu i sicrhau bod cais o ansawdd uchel yn cael ei gyflwyno.
Pa wybodaeth sydd angen i mi ddarparu?
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cwblhau eich ffurflen gais yn llawn a’ch bod yn cynnwys yr holl ddogfennau angenrheidiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
| Gwybodaeth | Busnes newydd neu llai na 12 mis o weithredu | Busnes wedi bod yn weithredol am fwy na 12 mis |
| Cynllun Busnes (templed i'w ddarparu yn ystod y cyfnod cymorth) | Angen cynnwys | Ddim angen cynnwys |
| Cynllun Prosiect (templed i'w ddarparu yn ystod y cyfnod cymorth) | Ddim angen cynnwys | Angen cynnwys |
| Rhagolwg ariannol 2 flynedd | Angen cynnwys | Ddim angen cynnwys |
| Mantolen a datganiad elw a cholled am y dwy flynedd diwethaf | Ddim angen cynnwys | Angen cynnwys |
| Datganiad banc cyfredol y busnes | Cynnwys - Mewn achosion lle nad yw cyfrif banc busnes wedi’i agor eto, gellir derbyn cyfriflen banc bersonol nes bod trefniadau bancio busnes addas wedi’u sefydlu. | Angen cynnwys |
| Cadarnhad o unrhyw ganiatâd perthnasol yn cynnwys gofynion cyfreithiol statudol | Angen cynnwys | Angen cynnwys |
| Holl ddyfynbrisiau | Angen cynnwys | Angen cynnwys |
| Tystiolaeth o arian cyfatebol | Angen cynnwys | Angen cynnwys |
Ni allwn ddechrau prosesu’ch cais nes fod yr holl wybodaeth perthnasol wedi’i dderbyn. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyflwyno’r holl wybodaeth efo’ch cais.
Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod angen yr arian grant arnoch h.y. heb y grant, ni fyddai modd gwneud yr hyn sy’n cael ei amlinellu yn eich cais:
- o gwbl
- i'r un raddfa
- o fewn amserlen rhesymol
Gall y Cyngor dynnu cynnig grant yn ôl, neu ad-hawlio arian sydd eisoes wedi’i dalu allan:
- os nad ydych yn defnyddio’r arian, neu’r offer y byddwch yn eu prynu, i wneud yr hyn rydych wedi amlinellu yn eich ffurflen gais
- os y byddwn yn canfod fod rywbeth yn eich cais sy’n anghywir
- os oes oedi afresymol wrth i chi symud ymlaen i brynu’r offer neu eu rhoi ar waith
Prosesu eich cais
Ar dderbyn eich cais llawn bydd y Cyngor yn:
- Gwirio bod yr holl fanylion sydd wedi’i ddarparu mewn trefn ac os oes gwybodaeth ar goll byddwn yn cysylltu i ofyn am wybodaeth ychwanegol
- Gwneud gwiriadau a allai gynnwys:
- Cynnal chwiliad gydag asiantaeth cyfeirio credyd yng nghyswllt eich busnes. Bydd yr asiantaeth yn cadw cofnod o’r chwiliad hwnnw ac efallai y bydd yn rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill
- Gwneud ymholiadau am gyfarwyddwyr cwmnïau gydag asiantaethau cyfeirio Credyd
- Os nad ydi’ch cais yn cyflawn byddem yn cynnig cyfnod byr i chi ddarparu’r wybodaeth coll. Er tegwch i ymgeiswyr eraill, os na fydd yr wybodaeth coll wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod penodol ni fydd eich cais yn cael ei asesu.
Hysbysu o’r Penderfyniad
Byddwn yn eich hysbysu o’r penderfyniad drwy e-bost.
Os bydd eich cais llawn am grant yn llwyddiannus ar ôl cwblhau’r cyfnod cymorth, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o gyllid rydym yn ei gynnig ac unrhyw amodau penodol sy’n gysylltiedig â’r grant. Byddwch hefyd yn derbyn cytundeb Telerau ac Amodau y bydd yn rhaid i chi gydymffurfio ag ef. Rhaid llofnodi a dychwelyd y cytundeb o fewn 14 diwrnod er mwyn derbyn y cynnig grant.
Amserlen Gweithredu
Rhaid i'r prosiect cyfan fod wedi’i gwblhau, a’r arian wedi’i hawlio gan Cyngor Gwynedd o fewn 3 mis o dderbyn eich llythyr cynnig. Nid oes modd i ni ad-dalu unrhyw hawliadau sydd yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad yma
Gwneud Hawliad
Mae’r grant yn cael ei dalu ar sail ôl-hawlio, ac felly bydd angen i ymgeiswyr dalu am yr eitemau ymlaen llaw cyn cyflwyno cais i adennill y costau.
Wrth hawlio grant bydd angen i chi ddarparu prawf o’r gwariant. Mae hyn yn cynnwys yr holl anfonebau a derbyniadau (peidiwch a chynnwys unrhyw wariant gafodd ei wneud cyn i chi dychwelyd y cynnig grant ffurfiol). Bydd y Cyngor hefyd angen copïau o ddatganiadau banc yn dangos taliadau’n mynd allan o gyfrifon y cwmni. Os ydych yn talu am unrhyw beth gyda cherdyn credyd neu debyg, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi talu’r cwmni credyd yn ôl yn llawn.
Cofiwch – peidiwch a thalu am unrhyw offer sydd ynghlwm a’r grant gydag arian parod (cash).
Bydd y Cyngor angen sicrhau bod yr arian grant wedi’i ddefnyddio i dalu am yr offer cywir, a’u bod y cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n cyd-fynd â thelerau ac amodau’r grant, ac unrhyw amodau ychwanegol os yn berthnasol. Gall hwn gynnwys archwilio’r gwaith, ymweld â’ch busnes, neu unrhyw ffordd priodol arall. Unwaith y bydd y Cyngor yn fodlon bod y grant wedi’i wario’n briodol, bydd y Cyngor yn rhyddhau’r cyllid i gyfrif banc eich busnes drwy daliad BACS.
Monitro
Am gyfnod o ddeg mlynedd yn dilyn dyddiad ein taliad olaf i chi, gall y Cyngor, neu unrhyw un ar ran y Cyngor, ymweld â’ch eiddo i gynnal archwiliad i fonitro’r busnes a’r offer neu wasanaethau y wnaethoch chi brynu gyda’r grant.
Os yw’r offer a gafodd ei brynu gyda’r grant yn dod i ddiwedd ei oes o fewn y cyfnod yma, cysylltwch â ni i roi wybod. Efallai y byddwn angen gweld tystiolaeth o hyn.
Os ydych yn bwriadu uwchraddio’r offer o fewn y cyfnod yma, cysylltwch â ni – efallai y byddwn eisiau gweld tystiolaeth eich bod wedi prynu offer newydd yn ei le.
Os ydych chi wedi adrodd eich bod wedi creu swyddi, bydd y Cyngor angen tystiolaeth o’r cyflogaeth, gall hyn gynnwys:
- Cofnodion cyflogres (cyn ac ar ôl y dyfarniad)
- Cytundeb cyflogaeth
- Slip tâl cyntaf wedi ei ddyddio
- Cofnod gwasanaeth ar-lein PAYE HMRC
- Tystysgrif P60
Nid oes angen cynnwys enwau unigolion ar gofnodion cyflogaeth – gallwch chi eu cuddio neu’u dileu.
Mewn achosion eraill, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd un ai ddangos tystiolaeth bod y dyfarniad grant wedi cynyddu trosiant y busnes neu ddangos sut mae wedi effeithio ar y busnes.
Sesiynau cymorth ymgeisio
Os nad ydych yn siŵr pa opsiwn sydd fwyaf addas ar gyfer eich busnes, mae sesiynau cymorth ar gael i'ch helpu i archwilio'r gwahanol ffrydiau cymorth cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Defnyddiwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.
| Lleoliad | Dyddiad | Amser |
| Bangor | 17/08 | 09:00 - 16:30 |
| Porthmadog | 20/08 | 09:00 - 16:30 |
| Dolgellau | 25/08 | 09:00 - 16:30 |
| Llanberis | 27/08 | 09:00 - 16:30 |
| Pwllheli | 02/09 | 09:00 - 16:30 |
| Blaenau Ffestiniog | 03/09 | 09:00 - 16:30 |
| Caernarfon | 08/09 | 09:00 - 16:30 |
| Nefyn | 10/09 | 09:00 - 16:30 |
| Bala | 14/09 | 09:00 - 16:30 |
Os na allwch fynychu sesiwn ond bod angen cymorth arnoch, cysylltwch â Busnes@Gwynedd.llyw.cymru