Menter Gwynedd: Rhaglen Cymorth Busnes 2026/27

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru, gyda'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy Cyngor Gwynedd.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i gefnogi busnesau ledled Gwynedd i ddatblygu, arloesi a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Os ydych yn awyddus i gychwyn neu dyfu eich busnes, gwneud gwell defnydd o dechnoleg neu leihau eich effaith amgylcheddol, gall y rhaglen eich helpu i archwilio cyfleoedd a chael mynediad at gymorth sy'n adlewyrchu eich uchelgeisiau a'ch blaenoriaethau.

Sut mae'r rhaglen yn gweithio?

Y cam cyntaf yw cyflwyno ffurflen datganiad o ddiddordeb, os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch gyfle i weithio gydag ymgynghorydd arbenigol i drafod eich busnes, adnabod meysydd ar gyfer datblygu a chreu cynllun gweithredu wedi'i deilwra i'ch anghenion.

Yn dilyn hynny, gall busnesau cymwys gael cyfle i wneud cais am gymorth ariannol i helpu i wireddu eu cynlluniau.

Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth ar draws tri ffrwd, datblygu Busnes, datgarboneiddio a mabwysiadu technoleg newydd. Fel rhan o'r broses datganiad o ddiddordeb, gofynnir i chi nodi'r maes sy'n adlewyrchu orau eich blaenoriaethau presennol.

Ddim yn siŵr pa ffrwd sydd yn addas i chi?

Os nad ydych yn siŵr pa opsiwn sydd fwyaf addas ar gyfer eich busnes, mae sesiynau cymorth ar gael i'ch helpu i archwilio'r gwahanol ffrydiau cymorth cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Sesiynau Cymorth: mwy o fanylion (yn agor mewn tab newydd)

Amserlen

Byddem yn anelu i gadw at yr amserlen isod:

- Cyhoeddi’r pecyn cais: 12 Awst, 2026

- Agor ffurflen datganiad o ddiddordeb: 14 Awst, 2026

- Cau ffurflen datganiad o ddiddordeb: Haner Nos 30 Medi, 2026

- Cyhoeddi canlyniadau: 7 Hydref, 2026

Os oes angen addasu’r amserlen wrth fynd, mi fydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn Bwletin Busnes@Gwynedd