Ffrwd Datblygu Busnes

Menter Gwynedd: Rhaglen Cymorth Busnes 2026/27

Mae'r cymorth sydd ar gael drwy'r ffrwd Datblygu Busnes wedi'i deilwra i anghenion eich busnes, gan ddibynnu ar ba gam o daith ddatblygu'r busnes rydych ynddo.

Ar gyfer busnesau newydd: bydd blaenoriaeth i unigolion 18–30 oed, menywod, pobl o gymunedau lleiafrif ethnig a phobl anabl sydd eisiau ddechrau busnes neu sydd yng nghamau cynnar datblygu eu syniad busnes.

Ar gyfer busnesau wedi’i sefydlu: bydd y cymorth yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithrediadau, ehangu i farchnadoedd newydd, cyflwyno cynhyrchion neu wasanaethau newydd a gwella perfformiad busnes.

Mae'r pecynnau yn cynnwys dau gam, sydd yn wahanol ar gyfer busnesau newydd a busnesau wedi'u sefydlu. Bydd y busnesau sy’n llwyddiannus yng ngham 1 yn cael eu gwahodd i symud ymlaen i gam 2 y rhaglen.

Busnesau Newydd

Busnesau wedi'u sefydlu

Meini prawf a mwy o wybodaeth

Sut i ymgeisio

Mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio

Ffactorau pwysig i'w nodi

Amodau'r rhaglen

Nodwch fod gan Cyngor Gwynedd disgresiwn llwyr i gefnogi cais i'r rhaglen ac mae penderfyniadau y Cyngor yn derfynol. Bydd penderfyniadau Cyngor Gwynedd yn amodol ar y budd rhagwelir ac yn llwyr ddibynnol ar argaeledd cyllid.
Rydym yn disgwyl galw mawr am y cymorth hwn a dim ond cyfran o'r ceisiadau a dderbyniwn fyddwn yn gallu eu cefnogi.