Pryd mae'r gwastraff yn cael ei gasglu?

Dod o hyd i'ch diwrnod casglu

Gallwch weld pa pryd mae eich gwastraff ac ailgylchu’n cael ei gasglu neu lawrlwytho eich calendr casglu drwy:

  1. Rhoi eich cod post yn y blwch isod.
  2. Dewis eich cyfeiriad o’r rhestr.

Neu beth am lawrlwytho apGwynedd er mwyn cael eich dyddiadau casglu yn syth i'ch ffôn:


Beth rydym yn ei gasglu a phryd

Math binAmlder
Bocs glas ailgylchu / cartgylchuBob wythnos
Bin brown bwydBob wythnos
Bin olwyn gwyrdd / hyd at 3 bag du (os nad oes gan eiddo fin olwyn)Bob 3 wythnos
Bin olwyn brown (gwastraff gardd)Rhaid archebu o flaen llaw. Mwy o wybodaeth
Clytiau a gwastraff clinigolRhaid archebu o flaen llaw. Mwy o wybodaeth

Amser casglu

  • Mae casgliadau’n digwydd rhwng 6am a 6pm.
  • Gall yr amser casglu newid o wythnos i wythnos.
  • Rhowch eich biniau allan y noson cyn y diwrnod casglu.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn am eich casgliad, neu os ydych angen cymorth, cysylltwch â ni: