Casgliad gwastraff gardd

Mae gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gael am ffi o £41 y flwyddyn.

Sut mae'r drefn yn gweithio a beth sy'n bosib ei roi yn y bin brown

Gwneud cais casglu gwastraff gardd (yn agor mewn tab newydd)

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

Gallwch hefyd archebu casgliad gwastraff gardd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb:

Telerau ac amodau gwastraff gardd

Pris a threfniadau casglu

Am £41 y flwyddyn byddwch yn derbyn:

  • 22 casgliad y flwyddyn
  • Un bin olwyn brown wedi ei wagio bob pythefnos

Gallwch archebu’r gwasanaeth unrhyw dro yn ystod y flwyddyn, ond bydd y ffi blynyddol yn aros yr un fath.

Dyma'r pris am y flwyddyn yn rhedeg o'r wythnos yn cychwyn 26 Ionawr 2026 hyd at ddiwedd mis Tachwedd / dechrau Rhagfyr 2026. Gallwch archebu’r gwasanaeth unrhyw dro yn ystod y flwyddyn, ond bydd y ffi blynyddol yn aros yr un fath.


Biniau ychwanegol

Gall pob cartref archebu hyd at 4 casgliad bin brown:

  • £34 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol.

Pryd mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu?

Rhowch eich cod post yn y blwch isod i ddod o hyd i'ch diwrnod casglu neu i lawrlwytho eich calendr casglu:


Sut mae'r drefn yn gweithio?

Ar ôl i chi dalu, byddwch yn derbyn y sticer drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith (gall gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur).

Bydd angen i chi osod y sticer o gwmpas eich bin olwyn brown.

Noder:

  • Fyddwch chi ddim yn cael bin newydd fel rhan o'r gwasanaeth yma
  • Os ydych angen bin olwyn newydd ffoniwch 01766 771000
  • Dim ond biniau efo sticer dilys arnynt fydd yn cael eu gwagio

Os na fyddwch wedi derbyn y sticer drwy'r post cysylltwch â ni.

Beth allwch chi ei roi yn y bin brown?

Rydym yn derbyn:
Gwair
Dail
Brigau
Blodau / planhigion
Chwyn
Rhowch yr uchod yn rhydd yn y bin.

NID ydym yn derbyn:
Mwd / pridd
Bagiau / potiau plastig
Cerrig
Rwbel
Baw ci

Mae mwy o fanylion i'w gweld yn y Cwestiynau ac Atebion Gwastraff Gardd


Trafferth gyda'ch gwasanaeth?

Adrodd casgliad wedi ei fethu (yn agor mewn tab newydd)


Gwybodaeth Bellach

Mae mwy o fanylion i'w gweld yn y Cwestiynau ac Atebion Gwastraff Gardd

Neu cysylltwch â ni:

Ymholiad gwastraff ac ailgylchu (yn agor mewn tab newydd)
  • 01766 771000