Os ydych yn defnyddio clytiau yn eich cartref gallwch archebu casgliad clytiau. Bydd sach melyn yn cael ei adael yn eich tŷ yn wythnosol ar y diwrnod casglu.

Rhowch y clytiau yn y sach melyn a'i adael yn y man casglu arferol.

Gwneud cais am gasgliad clytiau wythnosol (yn agor mewn tab newydd)

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

Neu ffoniwch 01766 771 000.

Trafferth gyda'ch gwasanaeth casglu clytiau?

Casgliad clytiau ardal Dwyfor, dydd Iau 3 Medi

Oherwydd problem gyda’r cerbyd nid oedd yn bosib cwblhau y casgliad clytiau yn ardal Dwyfor dydd Iau, 3 Medi.
Bydd y casgliad yn cael ei wneud bore dydd Sadwrn, 5 Medi. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.