
Rydym yn derbyn:
Papur
Papur newydd
Cylchgronau
Papur swyddfa
Post sgrwts
Papur wedi ei larpio
Cerdyn
NID ydym yn derbyn:
Papur efo glitter arno
Papur cegin budur
Hancesi papur budur

Rydym yn derbyn:
Caniau bwyd neu ddiod
Ffoil glân
Aerosols
Poteli plastig
Potiau a thybiau a hambyrddau plastig e.e. pot menyn neu iogwrt
Pot plastig dal ffrwythau a llysiau
Hambyrddau dal cig
Cartonau bwyd a diod - e.e. sudd oren neu gawl
NID ydym yn derbyn:
Plastig meddal fel bagiau plastig
Pacedi creision
Polystyrene
Cling film
Mae nifer o archfarchnadoedd yn derbyn yr eitemau yma.

Rydym yn derbyn:
Poteli gwydr
Jariau budur
NID ydym yn derbyn:
Gwydr budur

Os nad oes gennych Gartgylchu neu os ydych angen cyflwyno eitemau ychwanegol, gallwch ddefnyddio’r bocs glas traddodiadol.
Rhaid gwahanu eitemau yr un fath ar cartgylchu.

Rydym yn derbyn:
Pob math o wastraff bwyd e.e:
Cig neu bysgod eu coginio neu yn amrwd
Crafion ffrwythau a llysiau
Caws
Bara
Cyri
Gweddillion plât
Grefi
Bwyd sydd wedi pasio ei ddyddiad bwyta
Bagiau te
NID ydym yn derbyn:
Hylif fel llefrith neu olew
Defnyddiwch y bagiau sy'n cael eu darparu i leinio'r bin brown bwyd.
Gallwch archebu bagiau drwy adael nodyn ar eich bin ailgylchu bwyd ar y diwrnod casglu, neu gallwch nôl cyflenwad o faagiau o Siop Gwynedd.

Rydym yn derbyn:
Gwair
Dail
Brigau
Blodau / planhigion
Chwyn
Rhowch yr uchod yn rhydd yn y bin/bagiau gwastraff gardd.
NID ydym yn derbyn:
Mwd / pridd
Bagiau / potiau plastic
Cerrig
Rwbel
Baw ci

Rydym yn derbyn:
Unrhyw wastraff o'r tŷ nad oes modd ei ailgylchu
NID ydym yn derbyn:
Offer trydanol: nid ydym yn casglu unrhyw offer trydanol fel rhan o'r casgliad bin gwyrdd. Ewch â nhw i'ch canolfan ailgylchu leol neu drefnu casgliad gwastraff swmpus
Gwastraff adeiladwyr: nid ydym yn casglu gwastraff adeiladwyr fel rhan o'r casgliad bin gwyrdd.
Ni fyddwn yn casglu unrhyw fagiau ychwanegol na gwastraff wrth ochr y bin.

Os ydych yn defnyddio clytiau yn eich cartref gallwch archebu casgliad clytiau. Bydd sach melyn yn cael ei adael yn eich tŷ yn wythnosol ar y diwrnod casglu.
Mwy o wybodaeth a threfnu casgliad

Mae’n bosib trefnu casgliad gwastraff clinigol ar gyfer pob math o wastraff clinigol, gan gynnwys meddyginiaeth, gorchuddion neu nodwyddau.
Bydd hyn yn cael ei drefnu drwy gais gan eich nyrs gymunedol.
Am fwy o wybodaeth siaradwch gyda'ch darparwr gofal iechyd.