Mae’r canolfannau ailgylchu yn derbyn amrywiaeth o wastraff a deunyddiau i’w ailgylchu, er enghraifft:
Metelau sgrap
Coed a phren
Matresi
Gwastraff gardd
Rwbel
Cardfwrdd
Papur
Plastig - poteli a chynhwysyddion e.e. potiau iogwrt a menyn
Plastig caled – hen deganau neu ddodrefn o’r ardd
Caniau bwyd a diod
Poteli a jariau gwydr
Cartonau diod
Tecstilau
Poteli nwy
Cemegion o’r cartref a’r ardd
Paent
Olew llysiau
Hen olew peiriannau
Teiars
Batris
Batris ceir
Carpedi
Gwastraff bwyd
Tiwbiau goleuo
Setiau teledu
Pob math o nwyddau trydan
Oergelloedd
Rhewgelloedd
Cyllyll. Mae biniau amnest ar gyfer derbyn cyllyll yng nghanolfan ailgylchu Bangor, Caernarfon, Dolgellau a Harlech.
Gwastraff masnachol
Cyllyll. Ond, mae biniau amnest ar gael yng nghanolfan Bangor, Caernarfon, Dolgellau a Harlech.
Mae gan Gyngor Gwynedd dair Canolfan Ailgylchu wnaiff dderbyn Asbestos Sment, sef Caernarfon, Dolgellau a Garndolbenmaen.
Anogir y cyhoedd i gysylltu â Galw Gwynedd ar 01766 771000 i wneud trefniadau ymlaen llaw cyn cyrraedd y safle gydag asbestos sment.
Dim ond Asbestos Sment a dderbynnir yn y Canolfannau Ailgylchu hyn, a dylai'r cyfaint fod yn debyg i'r hyn a geir mewn safleoedd domestig neu fân waith DIY.
Ni dderbynnir Asbestos Sment yn y Canolfannau Ailgylchu os yw'r asbestos yn cael ei gludo gan gontractwr sy'n cael ei gyflogi gan y perchennog tŷ i wneud unrhyw waith ar ei h/eiddo megis adeiladu, addasu, cynnal a chadw neu ddymchwel.
Ni ystyrir bod garejis cyfan neu doeon cytiau gardd yn rhesymol ac, oherwydd y peryglon sy'n agwedd gynhenid o asbestos, dylai'r gwaith gael ei wneud, a'r asbestos gael ei waredu, gan gontractwr cymwys. Dylid trosglwyddo unrhyw ymholiadau sy'n awgrymu bod cyfaint o'r fath yn bodoli at wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) neu'r llinell gymorth ar 0300 065 3000.
Ni ddylid torri deunyddiau asbestos sment. Cynghorir perchennog y tŷ i wlychu'r llenni asbestos gyda dŵr cyn eu lapio er mwyn rhyddhau cyn lleied o ffibrau â phosib.
Rhaid i asbestos sy'n cael ei dderbyn yn y Canolfannau Ailgylchu gael ei lapio ddwywaith mewn plastig, a'r plastig gael ei selio gyda thâp addas.
Pan fo perchennog y tŷ, neu unrhyw un sy'n gweithredu ar ei rh/ran, yn cyrraedd y Canolfannau Ailgylchu rhaid iddi/o ddweud wrth staff y safle bod ganddi/o asbestos sment i gael ei wared. Bydd staff y safle wedyn yn sicrhau bod yr asbestos sment wedi cael ei lapio'n briodol (wedi ei lapio ddwywaith, ei selio, ac yn lân). Os yw staff y safle'n fodlon gyda'r lapio a'r cyflwr, byddant yn rhoi cyfarwyddyd manwl ar waredu ar y safle. Os nad yw staff y safle'n fodlon gyda chyflwr y lapio ni fydd yn cael dod ar y safle. Os digwydd hyn, rhoddir cyngor ar sut i lapio'r gwastraff yn gywir cyn dychwelyd i'r safle.
Ni fydd staff y safle yn trin nac yn helpu llwytho na dadlwytho'r Asbestos Sment. Dyletswydd y person sy'n dod ag o i'r safle ydi hyn.
Canslo slot
Os ydych angen canslo y slot, plîs rhowch wybod mor fuan â phosib er mwyn i ni gynnig y slot i rhywun arall. Er mwyn canslo, gyrrwch e-bost i: fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru
Neu cliciwch ar y linc ‘Sgwrs fyw’ (linc ar y dudalen yma pan mae’r gwasanaeth ar gael) neu ffoniwch 01766 771000 i ganslo.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu angen cymorth, cysylltwch â ni: