Archebu biniau newydd

Ar hyn o bryd mae'r amser aros am eitemau yn hyd at 30 diwrnod gwaith.

Archebu bin olwyn newydd

Ffoniwch ni os ydych angen archebu bin olwyn gwyrdd neu frown newydd, neu i roi gwybod am fin olwyn sydd wedi malu neu fynd ar goll:

  • 01766 771000

Nid yw'n bosib archebu bin olwyn newydd ar-lein.


Archebu offer ailgylchu newydd

Gallwch archebu offer ailgylchu newydd ar-lein. Eitemau ar gael i'w harchebu

Bagiau bin bwyd ar gyfer y cadi cegin: Gallwch archebu bagiau drwy adael nodyn ar eich bin ailgylchu bwyd ar y diwrnod casglu, neu gallwch nôl cyflenwad o faagiau o Siop Gwynedd.

Clo, a fflap oren a glas i'r cartgylchu: Ar gael i'w i’w casglu o Siop Gwynedd.

Archebu offer ailgylchu newydd (yn agor mewn tab newydd)

(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

Gallwch hefyd archebu offer ailgylchu dros y ffôn neu wyneb yn wyneb:


Symud tŷ?

Os ydych yn symud tŷ, gadewch y biniau/bocsys yn y tŷ.


Eitemau ar gael i'w harchebu

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni: