Polisi teithio i’r ysgol am ddim

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn tocyn teithio am ddim os ydych:

  • yn ddisgybl mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd ac yn byw 2 filltir neu drosodd o’r ysgol agosaf yn y dalgylch, neu
  • yn ddisgybl mewn ysgol uwchradd yng Ngwynedd ac yn byw 3 filltir neu drosodd o’r ysgol agosaf yn y dalgylch,

I weld y manylion llawn ac i lawrlwytho'r ffurflen gais, ewch i’r adran Cludiant Ysgol ar y wefan hon.

Tocyn Teithio 16+

Dros 16 oed ac yn byw ac yn astudio yng Ngwynedd? Mae'n bosib y bydd y Tocyn Teithio 16+ o fudd i chi. Rhagor o fanylion

Amserlenni bws ysgol / coleg

Yn ogystal â'r amserlenni bws arferol, mae gwasanaethau ychwanegol ar gyfer bysus ysgol/coleg. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r cwmni bws perthnasol.

Rhagor o wybodaeth

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdano ar y dudalen hon, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod:

Ymholiad cludiant cyhoeddus (yn agor mewn tab newydd)